Ein Gwasanaethau

Traphont Reilffordd y Waun. Llun o ochr ogledd-ddwyreiniol y draphont gan edrych tua’r de o bentan y draphont, a chwch yn croesi’r draphont. 1/6/2005. (Image: DS2005_033_005 / NPRN: 87002) Castell Llwchwr: Y Fwrdeistref Ganoloesol a Chyfnodau Diweddarach.  Hawlfraint y Goron: MoD 1946.  (Image: DI2006_0893 / NPRN: 401423)

Y Rhestr Brisiau

Sylwch y caiff deunydd a gyflenwir o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) ei ddiogelu gan gyfraith hawlfraint. At ddibenion ymchwil breifat yn unig y cyflenwir copïau o eitemau o’r casgliad. Os bwriedir atgynhyrchu deunydd, dylid mynd ati, cyn ei ddefnyddio, i gyflwyno cais ysgrifenedig am ganiatâd i’w atgynhyrchu. Cysylltwch â’r staff i gael y manylion.

Llungopïau ac Allbriniadau o'r Cronfeydd Data
A4 £0.30 y tudalen
A3 £0.50 y tudalen

Delweddau Digidol
Delwedd digidol ar CD-ROM
Ffi Sefydlu £10.00
Ynghyd â

  • Llun cyraniad isel –JPEG I 3mb lliw/1mb du a gwyn – Powerpoint   £5.00
  • Llun cydraniad canolig – JPEG hyd at 10mb lliw/5mb du a gwyn – A4   £6.00
  • Llun cydraniad uchel – TIFF I 85mb lliw/30mb du a gwyn – sy'n addad i'w gyhoeddi   £7.00

(Caiff delweddau eu sganio fel TIFF ar gydraniad o 300 o ddotiau'r fodfedd. Mae cyrandiadau a fformatau eraill ar gael os gweneir cais amdanynt).

Printiau Digidol
10” x 12” (254 x 303mm) £18.00
18” x 12” (457 x 305mm) £26.00
(Gall maint y print a gyflenwir amrywio ychydig)

Setiau Data Digidol
Cyflenwad o wybodaeth o COFLEIN mewn fformat digidol. Gellir darparu gwybodath ar CD-ROM yn y ffomatau canlynol:
Ffeil Testun, MS Access 2000, MS Excel 2000 neu GIS Shape File. Gall fformatau eraill a setiau helaethach o ddata fod ar gael drwy drefniant.

  • Cofnod sylfaenol (NPRN, enw safle, cyfeirnod grid cenedlaethol, dosbarthiad). Hyd at 500 cofnod £75.00
  • Cofnod sylfaenol ynghyd â disgrifiad os yw ar gael. Hyd at 500 cofnod £100.00

Cludiant a Phacio (Cyfraddau’r Deyrnas Unedig)
1 CD-ROM £2.50
Hyd at 50 llungopi/allbrint £2.00
(Gwasanaethau/cyfraddau postio eraill yn ôl y gost)

Hawlfraint Deunydd
Cyn atgynhyrchu unrhyw ddeunydd, dylid llenwi ffurflen caniatâd i atgynhyrchu (LRS 08) a’i hanfon i Lyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC. Mae’r ffurflen ar gael ar ein gwefan neu oddi wrth Wasanaethau Darllenwyr CHCC. Cysylltwch â CHCC i gael gwybodaeth am y ffioedd cyfredol.

Talu Dylid talu cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael anfoneb. Gwnewch sieciau’n daladwy i CBHC. Derbynnir y cardiau debyd/credyd hyn: Mastercard, Maestro, Visa, Visa Electron, Switch, Solo. Codir £10.00 yn ychwanegol os telir mewn arian heblaw arian Prydeinig.

Disgownt Addysgol – rhoddir disgownt o 20% ar nwyddau (ac eithrio'r cludiant a'r pacio) ar gyfer deunydd addysgol ac i fyfyrwyr sydd â cherdyn myfyriwr dilys.

Y Llyfrgell a'r Gwasanaeth Ymholiadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ
Ffon: +44 (0)1970 621200 Ffacs: +44 (0)1970 627701
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: http://www.cbhc.gov.uk

Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar agor i’r cyhoedd, Llun, Mawrth, Iau a Gwener, 09:30-16:00; Mercher 10:30-16:30