Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn darparu gwasanaeth sy’n ymwneud â threftadaeth archaeolegol ac adeiledig Cymru. Mae modd cael gwybodaeth drwy lenwi’r ffurflen e-bost Ffurflen Gwneud Ymholiad, drwy anfon cais drwy’r post, ffacsio cais, ffonio i gyflwyno cais neu ymweld yn bersonol â’r Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio yn Aberystwyth. Peth doeth yw gwneud apwyntiad.
Llyfrgell a Gwasanaethau Ymholiadau
CBHC
Adeilad y Goron
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NJ
Ffôn: +44(0)1970 621200
Ffacs: +44(0)1970 627701
Oriau Agor: Llun, Mawrth, Iau, Gwener, 9.30-4.00; Mercher 10.30-4.30.
Cewch weld y wybodaeth hon yn rhad ac am ddim, ond fe all fod ffi am gyflenwi copïau o ddata a deunydd archifol; Edrychwch ar y rhestr brisiau i gael y manylion. Caiff copïau o’r deunydd eu cyflenwi gan barchu unrhyw gyfyngiad ar hawlfraint neu gyfyngiad ar fynediad iddo. Edrychwch ar ein 'Telerau ac Amodau ar gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru', os gwelwch yn dda. Bwriadwn ateb eich ymholiad cyn pen 15 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais. I archebu copïau o gofnodion sydd eisoes i’w gweld ar Coflein, llenwch Ffurflen Archebu a rhowch y rhif catalog, yr NPRN, chyfeirnod y ddelwedd ac am pa ddefnydd y wybodaeth.