Ein Gwasanaethau

Argae Penygarreg, Cynllun Dŵr Cwm Elan. Ffotograff du a gwyn o argae Penygarreg sy’n dangos mewnfa’r cwlfer, a dynnwyd adeg ei hadeiladu.  O CHCC: Gasgliadau'r Edward Hubbard, 1897. (Image: GTJ63732 / NPRN: 32534) Castell Caerdydd. Y Tŵr Gwyn. 2003. (Image: DI2006_0409 / NPRN: 33) Malator, Druidston. 2003. (Image: DI2006_1035 / NPRN: 309561)

Archebu Deunydd o'r Archif

Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn darparu gwasanaeth sy’n ymwneud â threftadaeth archaeolegol ac adeiledig Cymru. Mae modd cael gwybodaeth drwy lenwi’r ffurflen e-bost Ffurflen Gwneud Ymholiad, drwy anfon cais drwy’r post, ffacsio cais, ffonio i gyflwyno cais neu ymweld yn bersonol â’r Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio yn Aberystwyth. Peth doeth yw gwneud apwyntiad.

Llyfrgell a Gwasanaethau Ymholiadau
CBHC
Adeilad y Goron
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NJ

Ffôn: +44(0)1970 621200

Ffacs: +44(0)1970 627701

Oriau Agor: Llun, Mawrth, Iau, Gwener, 9.30-4.00; Mercher 10.30-4.30.

Cewch weld y wybodaeth hon yn rhad ac am ddim, ond fe all fod ffi am gyflenwi copïau o ddata a deunydd archifol; Edrychwch ar y rhestr brisiau i gael y manylion. Caiff copïau o’r deunydd eu cyflenwi gan barchu unrhyw gyfyngiad ar hawlfraint neu gyfyngiad ar fynediad iddo. Nod Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yw ateb ceisiadau am wybodaeth cyn pen 15 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais. I archebu copïau o gofnodion sydd eisoes i’w gweld ar Coflein, llenwch Ffurflen Gwneud Ymholiad CHCC a rhowch y rhif catalog, yr NPRN a chyfeirnod y ddelwedd.

Dogfennau