Mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ddeunydd sy’n berthnasol i fyfyrwyr hanes, archaeoleg, pensaernïaeth, daearyddiaeth, celf a dylunio, amaethyddiaeth, astudiaethau ffilm ac astudiaethau crefyddol. Bydd myfyrwyr ar gyrsiau proffesiynol fel Gwyddor Archifau, Llyfrgell a Gwybodaeth, Astudiaethau Amgueddfa ac Astudiaethau Treftadaeth hefyd yn gweld bod agweddau ymarferol ar ein gwaith ni o ddiddordeb iddynt hwy.
Felly, os ydych chi’n fyfyriwr ar unrhyw lefel, o addysg bellach i ymchwil PhD, byddem wrth ein bodd yn eich helpu drwy ddarparu deunyddiau ar gyfer eich astudiaethau academaidd a’ch ymchwil. Mae’r wybodaeth sydd gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac a fydd o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr yn cynnwys:
Ffotograffau – rhai modern a hanesyddol.
Awyrluniau.
Lluniadau – adluniadau, trychiadau ac ati.
Adroddiadau ysgrifenedig.
Mapiau.
Llyfrau nodiadau.
Traethodau ymchwil.
Casgliadau arbennig.
Y Llyfrgell – llyfrau a chylchgronau arbenigol (sy’n mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif mewn rhai achosion) ar hanes, archaeoleg, pensaernïaeth, gerddi ac archaeoleg ddiwydiannol, a chyfeirlyfrau megis geiriaduron, geirfâu a bywgraffiaduron.
Gellir dod â’r holl wybodaeth ynghyd i’ch helpu gyda’ch traethodau, eich traethodau hir a’ch traethodau ymchwil.
Y pwynt mynediad cyntaf i’n gwybodaeth a’n casgliadau yw Coflein, ein cronfa ddata ar-lein gyhoeddus. Ar ôl i chi ddod o hyd i’r safle yr ydych chi’n chwilio amdano, ac yn gweld o’r catalog fod gennym ddeunydd archifol ar gael, gallwch anfon ymholiad i’n hadran Llyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau ar ffurflen ymholiad ar-lein. Ond os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn y mae arnoch ei angen ar Coflein, bydd croeso i chi gysylltu â ni. Gall ein staff chwilio, o bosibl, am ddeunydd yn ein casgliadau ni neu awgrymu enwau sefydliadau eraill a all eich helpu. Gallwch chi hefyd gysylltu â’n tîm ymholiadau dros y ffôn neu’r ffacs, drwy lythyr neu’n bersonol. Os gallwch chi ymweld â’n llyfrgell yn Aberystwyth i wneud eich ymchwil yn y fan a’r lle, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad a rhowch gymaint â phosibl o wybodaeth am eich maes astudio. Yna, fe awn ati i gasglu’r deunyddiau perthnasol a threfnu iddynt fod yn barod erbyn eich ymweliad.
Gallwn ni hefyd drefnu ymweliadau grŵp i fyfyrwyr a’u darlithwyr. Ymhlith yr ymweliadau diweddar cafwyd:
Grŵp o fyfyrwyr a oedd yn astudio adeiladau canoloesol. Cawsant gyflwyniad gan hanesydd pensaernïol cyn gweld detholiad arbennig o eitemau o’r archif.
Myfyrwyr celf a oedd yn astudio’n casgliad Capeli ac yn cael hyfforddiant gan aelodau o’r staff sy’n ymwneud â’r Prosiect Capeli.
Grŵp mawr o fyfyrwyr archaeoleg o fyd addysg bellach ac uwch. Cawsant gyflwyniad gan ein Hymchwilydd Awyrluniau a hefyd, mewn grwpiau seminar, gan ddarlithydd a ddefnyddiodd fapiau ac awyrluniau. Gallwn ni hefyd drefnu hyfforddiant mewn technegau arolygu gan ddefnyddio’r offer diweddaraf un.
Mae myfyrwyr ar gyrsiau Astudiaethau Treftadaeth wedi cael sesiynau tiwtorial bach ar y systemau gweinyddol sydd ynghlwm wrth adeiladau rhestredig a henebion eraill sy’n cael eu diogelu.
Daw archifwyr, llyfrgellwyr a myfyrwyr astudiaeth gwybodaeth i weld ein systemau gwybodaeth, ein cyfleusterau archifol a rhai o’n prosiectau arloesol – fel canllawiau treftadaeth ar gyfrifiaduron llaw.
Bydd cyrsiau addysg barhaus hefyd yn defnyddio’n cyfleusterau ar gyfer cyflwyniadau pwrpasol ac i edrych ar ddeunydd archifol.
Gallwn ni drefnu lleoliadau neu brofiad gwaith i fyfyrwyr. Cysylltwch â’n Swyddog Adnoddau Dynol os hoffech chi dreulio amser yn gweithio ochr yn ochr ag un o’n staff arbenigol, neu os hoffech chi wneud dim mwy na threulio ychydig o amser yn gweld sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio.
Gellir darparu llungopïau o ddetholiad o wybodaeth a sganiau o luniau, yn amodol ar gyfyngiadau hawlfraint. Trowch at y rhestr brisiau. Mae disgownt o 20% i fyfyrwyr.