Mae’r Comisiwn Brenhinol yn chwarae rôl yn y broses o ddatblygu cymunedau cryf yng Nghymru, a hynny drwy drefnu i wybodaeth fod ar gael am yr amgylchedd hanesyddol, drwy bob un o’n gwasanaethau, i gynyddu’r ymwybyddiaeth o arbenigrwydd lleol ac i feithrin teimlad o falchder. Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu dehongliad lleol drwy gyfrwng cyhoeddiadau, arddangosfeydd a phaneli safle mewn llawer cymuned ledled Cymru. Ein nod yw helpu Strategaethau Cymunedol yr awdurdodau lleol a gweithio i gynorthwyo gweithrediad rhaglen Cymunedau’n Gyntaf Llywodraeth y Cynulliad yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ynghyd â’r fenter i ymladd allgáu digidol, Cymunedau@Ei Gilydd.
Os hoffech gael gwybodaeth am gymuned benodol, gallwch fynd i dudalen teithiau a llwybrau a chael gwybod am ardaloedd a lleoedd penodol. Gallwch chi chwilio Coflein, ein cronfa ddata ar-lein o safleoedd archaeolegol ac adeiladau hanesyddol, gan ei bod hi’n cysylltu ag astudiaethau ymchwil, awyrluniau a chofnodion eraill y gallwn ni eu darparu o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol.
Efallai y gallwn ni helpu grwpiau treftadaeth cymunedol a chyrff eraill sydd wrthi’n hybu dealltwriaeth o dreftadaeth yn y gymuned drwy gynnig sgyrsiau gan ein staff arbenigol neu drefnu i grwpiau ymweld â’n hystafell ddarllen, cymryd rhan mewn prosiectau partneriaeth i astudio a chofnodi’r dreftadaeth leol, neu gynnig cymorth gyda’r gwaith dehongli. Os hoffech chi drafod sut y gallai’r Comisiwn Brenhinol helpu’ch gr?p cymunedol, cysylltwch â ni