Bydd arddangosfa newydd o ddelweddau o archif y Comisiwn Brenhinol yn rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser. Mae’r arddangosfa’n cynnwys delweddau wedi’u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (archif y Comisiwn) yn Aberystwyth; gyda bron i ddwy filiwn o ffotograffau a 125,000 o luniadau hi yw’r archif gweledol mwyaf yng Nghymru.
Bydd y delweddau’n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand, a byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliadau’r amgueddfeydd ac orielau sy’n cynnal yr arddangosfa. I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi llyfr newydd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a fydd yn cynnwys oddeutu 200 o ddelweddau allweddol o’i archif.
Bydd yr arddangosfa yn agor i’r cyhoedd yn Amgueddfa Ceredigion ar 26 Mai 2012 am chwe wythnos, a bydd wedyn yn teithio i amgueddfeydd eraill ar hyd a lled Cymru. Dyma fanylion y lleoliadau sydd wedi’u cadarnhau.
2012
25 Mai 2012 - 7 Gorffennaf 2012, Amgueddfa Ceredigion
24 Awst 2012 - 20 Hydref 2012, Maenordy Scolton
1 Tachwedd 2012 - 5 Ionawr 2013, Tŷ a Pharc Bedwellte
2013
19 Ionawr 2013 - 2 Mawrth 2013, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd Bangor
1 Mai 2013 - 8 Mehefin 2013, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
18 Mehefin - 31 Awst 2013, Amgueddfa Abertawe
1 Hydref 2013 - 4 Ionawr 2014, Amgueddfa Llandudno