Ein Gwasanaethau

Ystâd Dai Glebelands, Hubberston. 2003. (Image: DI2006_0564 / NPRN: 402790) Hen Bont Pontypridd, Pontypridd. Adeiladwyd yn 1756, gan William Edwards. Diddyddiad. (Image: CD2005_612_014 / NPRN: 24145) Bethlehem, Capel yr Annibynwyr, Broad Street, Blaenafon. Diddyddiad (Image: CD2003_609_021 / NPRN: 12891)

Estyn-allan

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
yn eich gwahodd i fynychu cynhadledd yng Ngwesty’r Y Pafiliwn, Llandrindod, mewn cydweithrediad â Leica-Geosystems, Atlanterra, CAST, Maney Publishing, Imagina Atlantica a ICOMOS UK.

Gorffennol Digidol 2012
Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
22-23 Chwefror, 2012, Llandrindod

*********************************************
Gorffennol Digidol 2012 – FFURFLEN GOFRESTRU (ffeil DOC, 0.1MB)
Gorffennol Digidol 2012 - RHAGLEN
*********************************************

Cynhadledd ddeuddydd fydd Gorffennol Digidol ac ynddi fe arddangosir technolegau digidol arloesol ar gyfer dal, dehongli a lledaenu data am safleoedd ac arteffactau treftadaeth. Hon fydd y bedwaredd flwyddyn, a chynhelir Gorffennol Digidol 2012 yn nhref hanesyddol Llandrindod. Cynigir cyfuniad o bapurau, seminarau, gweithdai ymarferol ac arddangosiadau i ymchwilio i’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf a’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu treftadaeth a sicrhau ei chadwraeth.

Bydd y gynhadledd o werth i unrhyw un sydd wrthi’n gweithio neu’n astudio yn y sector archaeoleg a’r sectorau treftadaeth, addysg ac amgueddfeydd. Y bwriad yw iddi fod yn fodd i rwydweithio a chyfnewid syniadau’n anffurfiol ymhlith cynulleidfa gyfeillgar ac amrywiol o unigolion o fyd masnach, o sefydliadau’r sector cyhoeddus ac o’r trydydd sector. Bydd sesiynau Tŷ Agored hefyd yn gyfle i arddangos prosiectau neu gynhyrchion ac i siarad â mudiadau treftadaeth, datblygwyr cynhyrchion a manwerthwyr.

MAE COFRESTRU NAWR AR AGOR

Cynhadledd deuddydd
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae:
Comisiwm Brenhinol Henebion  Cymru
Jon Henderson, (Prifysgol Nottingham): Diogelu dinas danddwr o’r Oes Efydd yn ddigidol: Prosiect Archaeoleg Danddwr Pavlopetri
James Mott, (Projectbook): Defnyddio cyfryngau cymdeithasol gan sefydliadau treftadaeth
Jo Reid, (Calvium Ltd):Llwyfan AppFurnace
Dr Alan Chamberlain, (Prifysgol Nottingham): Placebooks; Llwybrau cymunedol
Dominque Attwood & Sue Davies, (Amgueddfeydd ac Orielau Leeds): Pwysigrwydd bod â’r isadeileddau cywir yn eu lle wrth ymdrin â chynulleidfaoedd newydd a thechnolegau newydd
Ken Murphy, (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed): Dod o hyd i dirweddau tanddwr oddi ar arfordir Cymru – Prosiect Palaeodirweddau Arfordir y Gorllewin
Marcus Abbot, (ArcHeritage): Technolegau digidol mewn archaeoleg fasnachol
Peter Guest, (PrifysgolCaerdydd): Manteisio i’r eithaf ar dechnolegau digidol mewn cloddiadau archaeolegol: delweddu’r gaer lengol Rufeinig yng Nghaerllion
Trevor Pearson, (English Heritage):Gwaith arolygu diweddar yng Nghôr y Cewri

Unwaith eto, mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac fe’ch cynghorir i archebu lle’n gynnar.

Cost cofrestru am y ddau ddiwrnod yw £59.00, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod. Bydd cofrestru ar agor cyn bo hir.

Saesneg fydd iaith y gynhadledd

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ‘Gorffennol Digidol’ yn 2012.
Susan Fielding, Toby Driver, Angharad Williams a Tom Pert, CBHC

Rhagor o Wybodaeth:
e-bost: susan.fielding[at]cbhc[d-o-t]gov[d-o-t]uk
Ffôn: (0)1970 621 219

Archebion Cynhadledd:
e-bost: jane.corker[at]cbhc[d-o-t]gov[d-o-t]uk
Ffôn: 01970 621234

****************************
Goffennol Digidol 2012 (ffeil PDF, 0.2MB)
****************************

Gwefannau defnyddiol:
Cyrraedd Gwesty’r Y Pafiliwn. http://www.pavilionmidwales.co.uk
Gwefan CBHC: www.cbhc.gov.uk

Dogfennau