Gan L. Bergeron, Editor, 2007.
Golygwyd gan Louis Bergeron, 2007.
Mae tri-chwarter y gyfrol hon, a gyhoeddir yn y gyfres ryngwladol ar archaeoleg ddiwydiannol Industrial Patrimony, yn ymwneud â thrafodaethau grŵp o arbenigwyr rhyngwladol yn y gynhadledd arbennig a gynhaliwyd yn gynnar yn 2007 i benderfynu ar bwysigrwydd byd-eang Traphontydd Dŵr Pontcysyllte a’r Waun a Chamlas Llangollen. Ymhlith y papurau, sy’n cynnwys darluniau helaeth, mae un gan Peter Wakelin ar ddylanwad Traphont Ddŵr Pontcysyllte; ar dreftadaeth ddiwydiannol y byd gan Stuart Smith; Stephen Hughes ar gamlesi rhyngwladol; adfywio Blaenafon gan John Rodger; y Ffordd i Gaergybi gan Barrie Trinder; John Hume ar Gamlas Telford-Jessop yn yr Alban; Treftadaeth Gwybodaeth Telford gan Gordon Masterton; David Gwyn ar Reilffyrdd Camlas Llangollen; tirwedd ddiwylliannol hyfryd y gamlas gan Barrie Trinder a David Gwyn; Susan Fielding ar gofnodi Camlas Llangollen; cadwraeth gan Peter Birch a Nigel Crowe; Miles Oglethorpe ar Bont Afon Forth a chasgliadau’r gynhadledd gan Stephen Hughes.
Clawr: Meddal
Maint: 212 x 297mm
Tudalennau: 163
Darluniau: 133
ISBN: 0
Pris: £14.95
Clundiant: £0.00