Cyhoeddiadau

Cynorthwywyr Digidol Personol (PDA) (Image: 2008. PDA Blaenavon 2 / NPRN: 9999 / Source: RCAHMW) Ymwelwyr yn defnyddio'r e-lwybr ym Mlaenafon (Image: 2008. PDA Blaenavon 1 / NPRN: 9999 / Source: RCAHMW)

Hanes Wrth Law

Gwelwyd chwyldro ym maes technoleg gwybodaeth symudol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Eisoes, mae gan dros with o bob cartref ym Myrydain ryw fath o ddyfaid symudol. Nod y pamffled hwn yw hybu defnyddio’d dechnoleg honno’n ffordd newydd o gyfleu’r cyfoeth o wybodaewth sydd gan amgueddfeydd,archifdai a llyfrgelloedd i ddefnyddwyr i bobl y gall hi fod yn anodd eu cyrraedd neu bobl sy’n teimlo nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad âsefydliadau treftadaeth i ddatblygu cyflwyno gwybodaeth ddiwylliannol i’r cyhoedd drwy gyfryngau symudol. Seilir hyn olla r y gwaith sydd wedi’i wneud gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a aeth ati, gyda chymorth CyMAL, yr Is-Adran o Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, i gynhyrchu’r e-lwybr cyntaf yn y wlad i fod yn sensitive i leoliad.

Tan yn ddiweddar, maes i gwmnïau arbenigol oedd cymwysiadau symudol, ond o fanteisio ar feddalwedd y gellir cael gafael arno’n rhad ac am ddim neu sydd ar gael ar y mwyafrif o gyfrifiaduron gartref neu yn y swyddfa, mae modd bwrw ati’n ddigon rhad i greu teithiau sy’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau. Hoffem ddarlunio’n arbennig yr hyn y gellir ei wneud mewn sefydliad sydd ag adnoddau cyfynegedig gan fod cymwysiadau’r Comisiwn Brenhinol wedi’u datblygu heb wario’r un geiniog ar ymgynghorwyr neu gwmnïau arbenigol. Ceir arweiniad manylach ar ein gwefan, a dangosir y cysylltau iddynt yn yr adrannau perthasol isod.

Dogfennau