Yn ystod haf 1985 y gwnaed yr arolwg a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, a hynny fel rhan o ymchwiliad i fanteision defnyddio ffotogrametreg wrth gofnodi yn y maes. Mae’r awduron yn pwyso a mesur y dystiolaeth o blaid y cestyll canoloesol ar Castle Bank, a chan nad oes unrhyw waith cloddio archaeolegol wedi’i wneud ar y safle, o ffynonellau hanesyddol y daw’r unig dystiolaeth sydd ar gael ynghylch trefn bosibl eu codi. Ystyrir lleoliad topograffig y safle ynghyd â’r ffynonellau hanesyddol. Disgrifir y gwrthgloddiau’n bur fanwl i esbonio’r lluniadau a’r ffotograffau ac, yn olaf, cynigir dehongliad cyffredinol o ddilyniant tebygol codi cydrannau’r safle.
Mae’r adroddiad ar gael ar ffurf ffeil PDF y gellir ei llwytho i lawr o’r tudalen hwn. Dylai darllenwyr nodi nad yw’r ddogfen yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen-sgrin.