Cyhoeddiadau

Seion, Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Upper Park Street, Llanelli. 2004. (Image: DI2006_0813 / NPRN: 6439) Ciliau, Llandeilo Graban, Maesyfed. 2004. (Image: DI2005_0055 / NPRN: 81106)

Cyhoeddiadau

Bu’r Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi ffrwyth ei ymchwil a deunydd o’i archif ers 1911. Y cyhoeddiadau cyntaf oedd rhestrau (‘inventories’) o safleoedd hynafol a hanesyddol ym mhob sir, a chafodd y gyfrol olaf ei chyhoeddi yn 2000. Ym 1975, cyhoeddodd y Comisiwn ei lyfr thematig cyntaf, Houses of the Welsh Countryside, ac ers hynny rydym ni wedi cyhoeddi deg ar hugain a rhagor o deitlau’n ymdrin â phob agwedd ar Dreftadaeth Cymru. Mae ein catalog cyfan bellach ar gael drwy ein siop lyfrau, ac mae teitlau sydd allan o brint ar gael fel eLyfrau. Bydd y Comisiwn hefyd yn gweithio ar y cyd â chyhoeddwyr eraill ar weithiau perthnasol yn unol â’n polisi cyhoeddi. Mae mwy a mwy o’n gwaith ar gael yn ddigidol ar ffurf adroddiadau safle manwl, animeiddiadau ac adnoddau gwe megis Coflein. Cyhoeddwn newyddlenni, adroddiadau blynyddol a blog Treftadaeth Cymru hefyd.