Chwilio Cofnodion

Argae Penygarreg, Cynllun D?r Cwm Elan. Ffotograff du a gwyn o argae Penygarreg sy’n dangos mewnfa’r cwlfer, a dynnwyd adeg ei hadeiladu.  O CHCC: Gasgliadau'r Edward Hubbard, 1897. (Image: GTJ63732 / NPRN: 32534) Y ffenestr liw yn Eglwys Penarlâg a gynlluniwyd gan Burne-Jones ac sy’n darlunio chwaraewyr ffidil a liwt. 2003. (Image: DI2005_0596 / NPRN: 310514)

Delweddau ar Coflein

Mae system Coflein yn fodd i’r cyhoedd gael mynediad uniongyrchol ac ar-lein i lawer o’r lluniau sydd yn naliadau Archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ffotograffau sydd wedi’u “geni’n ddigidol”, sganiau o luniadau copi-caled, a ffotograffau, yn ogystal â fersiynau .PDF o adroddiadau ar arolygon a dogfennau eraill. Bydd hyd, lled a chwmpas y cofnodion digidol sydd ar gael drwy Coflein yn cynyddu’n gyson oherwydd ein rhaglen fewnol weithgar i ddigido detholiad o luniau archifol, ac oherwydd bod y Comisiwn Brenhinol yn dal i gynhyrchu cofnodion arolygu digidol ac yn derbyn deunydd a roir gan bobl a sefydliadau oddi allan. Erbyn hyn, caiff llawer o’r deunydd hwnnw ei roi mewn fformat digidol.

Os hoffech chi chwilio’n unswydd am luniau ar-lein sy’n ymwneud â safleoedd, cliciwch ar “Ie” yn y blwch Chwiliwch yn unig am safleoedd sydd â delweddau ar-lein wrth wneud chwiliad testun.

Dewis arall yw clicio ar y botwm Delweddau ar-lein sy’n ymddangos uwchben y Crynodeb o’r Casgliad Archifol ar gyfer safle penodol ac fe welwch chi unrhyw luniau ar-lein sydd ar gael.

Os oes cofnodion ar-lein yn bod, cânt hwy hefyd eu dangos pan agorwch chi gyfeiriadau unigol at gasgliadau o gofnodion o’r fath yn y Crynodeb o’r Casgliad Archifol.

Er bod fersiynau cydraniad-sgrin o luniau ar gael yn uniongyrchol drwy Coflein, mae modd archebu fersiynau o safon uchel, naill ai mewn fformat digidol neu fel copi caled, oddi wrth y Llyfrgell a Gwasanaethau Darllenwyr . Bydd gofyn i chi dalu ffi fach am eu hatgynhyrchu. O bosibl, os bwriedir defnyddio’r llun i’w gyhoeddi, bydd gofyn i chi dalu taliadau hawlfraint.

Cysylltau allanol