Chwilio Cofnodion

T?r Paxton; Cofeb Nelson. 2004. (Image: DI2006_0799 / NPRN: 32666) Fferm Wynt Llidiart-y-waen, Llandinam. 2001. (Image: DI2006_0497 / NPRN: 306320) Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 2000. (Image: CD2003_606_023 / NPRN: 309686)

Datblygiadau yn Coflein at y dyfodol

Yr ydym yn parhau i ddatblygu Coflein a’n gwasanaethau ar-lein eraill er mwyn ateb mwy a mwy o anghenion ein defnyddwyr. Y datblygiad nesaf fydd gwella’r mapiau drwy gydblethu ymholiadau testun fel bod modd cynhyrchu mapiau dosbarthiad. Ceir datblygiadau pellach hefyd yn achos Cymru Hanesyddol, ein ‘porth’ gwe sy’n cysylltu data o amrywiaeth o ffynonellau diwylliannol a threftadaeth ledled Cymru. Mae porth Cymru Hanesyddol yn cynnwys data Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (Coflein), casgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru, cronfeydd data Cadw o adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig a’r Cofnodion o’r Amgylchedd  anesyddol a gedwir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol rhanbarthol Cymru.

Cysylltau allanol