Croeso i wasanaeth mapiau newydd Coflein. Mae’r gwasanaeth wedi’i lansio mewn fformat beta i ni gasglu gwybodaeth am ei weithrediad a’i broblemau a chlywed awgrymiadau ynglŷn â’i wella. Mae’r gwasanaeth newydd wedi’i seilio ar dechnoleg OpenLayers, sef pecyn ffynhonnell-agored a ddefnyddir yn helaeth bellach ar gyfer cymwysiadau mapio. I gyflwyno sylw ar y mapiau, defnyddiwch ein ffurflen ‘Survey Monkey'.
Mae chwiliad testun yn well am ddod o hyd i henebion penodol wrth eu henwau, neu i safleoedd ar sail categorïau eraill fel enw, math neu gyfnod. Gallwch chi hefyd ei ddefnyddio i ddod o hyd i safleoedd mewn tiriogaethau penodedig fel cymuned neu sir, neu yng nghyffiniau lleoliad sydd wedi’i ddiffinio gan gyfeirnod y grid cenedlaethol. Dyma’r ffordd gyflymaf o chwilio am safleoedd a henebion archaeolegol neu bensaernïol y mae gennym ni luniau ohonyn nhw, a cheir hefyd gyfleuster allweddair sy’n chwilio am bob achos o’r geiriau penodedig ledled y gronfa ddata.
Caiff canlyniadau ymholiadau eu rhestru yn y ffenestr wybodaeth a’u mapio ar ffenestr y map. Cewch chi ddefnyddio chwiliadau, felly, i gael mapiau dosbarthiad ac i gael lleoliadau’n fanwl-gywir. Os cliciwch chi ar bìn lleoliad, cewch chi gysylltu â manylion y safle, fel y cewch chi drwy glicio ar yr NPRN yn y rhestr. Os cliciwch chi ar nifer y lluniau, fe ewch chi’n syth i restr o’r lluniau sydd ar gael. Ar dudalen manylion y safle(oedd) cewch chi ddisgrifiad o’r safle a chysylltau i luniau ac adnoddau pellach os ydyn nhw ar gael ar-lein.
Mae’r map yn fodd i chi fynd i mewn ac allan a thremio ar draws Cymru. Ar ôl i chi gyrraedd graddfa ddigon mawr, fe welwch chi smotiau coch sy’n dangos lleoliadau y mae gennym ni wybodaeth amdanyn nhw. I agor y wybodaeth, cliciwch ar yr arf ‘dewis tiriogaeth’, pwyswch y fysell shifft a chrëwch flwch o amgylch y diriogaeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddi. Bydd hynny’n rhestru’r safleoedd yn y ffenestr wybodaeth ac yn dangos detholiad o’r safleoedd fel pinnau lleoliad. Fel o’r blaen, os cliciwch chi ar bìn lleoliad, cewch chi gysylltu â manylion safle, fel y cewch chi drwy glicio ar yr NPRN yn y rhestr o safleoedd. Os cliciwch chi ar y nifer o ddelweddau, fe ewch chi’n syth i restr o’r delweddau sydd ar gael.
Mae hwn yn fodd i chi fynd yn gyflym i ran ragbenodedig o’r map. Daw’r rhestr o enwau lleoedd o ddata’r Arolwg Ordnans (dydy ffurf Gymraeg pob enw lle ddim yno). Fydd ymholiad DDIM yn chwilio cronfa ddata Coflein – dylech chi ddefnyddio’r tab Chwilio i wneud hynny. Chwiliwch am enw lle isod a bydd y map yn dangos y lleoliad(au). Os bydd mwy nag un, cliciwch ar yr un sy’n cyd-fynd orau â’ch chwiliad i fynd yn syth i’r lleoliad.
Diolch,
David Thomas,
CBHC