Ers peth amser, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn arbrofi gyda chyflwyno gwybodaeth o Coflein i ddyfeisiau symudol. Ein llwybr cyhoeddus cyntaf oedd e-lwybr Rhuthun, ac yr ydym yn dal i ddatblygu rhagor o brosiectau e-lwybr, sef ar gyfer Blaenafon a Chaerllion. Ond ein nod tymor-hir yw datblygu ffordd o drosglwyddo gwybodaeth o Coflein yn ddiwifr i ddyfeisiau symudol, megis ffonau symudol neu gynorthwywyr digidol personol (PDA), ledled Cymru.
Bydd eich gallu i droi at ddata o Coflein wrth deithio, lle bynnag y byddwch chi, yn sicrhau bod gwybodaeth am dreftadaeth ar gael i chi pryd y bydd ei hangen arnoch chi fwyaf – wrth edrych ar safle archaeolegol neu adeilad hanesyddol o’r tu allan.
Os gallwch chi ddefnyddio ffôn symudol neu gynorthwyydd digidol personol i gysylltu â’r we, efallai fod modd i chi weld tudalennau Coflein yn barod. Mae hi eisoes yn bosibl defnyddio PDA i chwilio am destun a chael gafael ar wybodaeth am safle – a lluniau ohono, ond ein gobaith yw sicrhau bod defnyddio Coflein o ddyfais symudol yr un mor syml ag yw hi ar gyfrifiadur gartref.
Wrth i ddatblygiadau o ran anfon data Coflein i ddyfeisiau symudol ddod ar-lein, bydd y Comisiwn Brenhinol yn rhoi gwybod amdanynt yn adran Newyddion y wefan.