Chwilio Cofnodion

Cob Traeth Mawr. Y Cob, Porthmadog. 1994. (Image: DI2005_0672 / NPRN: 34165) Clawdd Offa. Sleid o awyrlun lliw ar-osgo CBHC o Glawdd Offa, 23/6/1993. (Image: GTJ25748 / NPRN: 306866)

Beth yw COFLEIN?

Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) - y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. O'r ddau air cof a lein y daw'r enw.

Mae Coflein yn cynnwys manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru,ynghyd â mynegai i'r lluniadau, y llawysgrifau a'r ffotograffau sydd yng nghasgliadau archifol CHCC. Gellir dangos y safleoedd ar fapiau'r Arolwg Ordnans a'u trefnu'n ddaearyddol, yn ogystal â thrwy ymholiadau testun. Gellir chwilio'r data yn ôl lleoliad (enw lle, ardal neu ddalen map 1:10,000 yr Arolwg Ordnans), math (dosbarthiad neu swyddogaeth safle, heneb neu adeilad) neu allweddair.

Mae Coflein bellach ar gael fel cronfa ddata Saesneg. Mae fersiwn Gymraeg yn yr arfaeth. Mae'r cyflwyniad hwn a'r tudalennau "Cymorth" ar gael yn y Gmraeg neu'r Saesneg.

Pa fath o wybodaeth sydd ar gael drwy Coflein ar hyn o bryd?

Mae cyfleuster chwilio Coflein yn arddangos detholiad o wybodaeth o gronfa ddata CHCC, gan gynnwys enw a lleoliad safle, heneb neu adeilad, a'r math o safle, heneb neu adeilad. Darperir gwybodaeth hefyd ar ffurf testun disgrifiadol (os yw ar gael), ynghyd â gwybodaeth o gatalog archif CHCC am eitemau sy'n ymwneud â'r safle. Dylai'r defnyddwyr fod yn ymwybodol bod y gronfa ddata'n dal i gael ei datblygu ac nad yw'r holl wybodaeth a gedwir yn CHCC ar gael drwy'r cyfleuster hwn. Mae rhaglen systematig o ddigido a chatalogio ar y gweill i gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael ar-lein, ond anogir defnyddwyr hefyd i gysylltu â staff y Llyfrgell a'r Gwasanaethau Ymholiadau yn CHCC neu ffonio: 01970 621200 i holi a oes cofnodion ychwanegol.

Gan fod archif CHCC yn tyfu o ddydd i ddydd wrth i wybodaeth gael ei chasglu'n uniongyrchol o raglenni arolygu'r Comisiwn Brenhinol a thrwy i gyrff eraill ac unigolion gyflwyno deunydd, mae'r casgliadau erbyn hyn yn cynnwys dros 1.25 miliwn o ffotograffau, 70,000 o gynlluniau a lluniadau a 50,000 o fapiau hanesyddol yn ogystal â miloedd o arolygon ac adroddiadau. Yn raddol, caiff eitemau o'r casgliadau hynny eu digido ac fe fyddant hwy, yn ogystal â gwybodaeth o'r catalog, ar gael ar-lein. Fwy a mwy, mae rhaglenni arolygu'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth mewn fformatau digidol, ac fe drefnir i'r data hynny hefyd fod ar gael ar-lein.

Dilysu:

Gan fod y manylion yn y gronfa ddata hon wedi'u tynnu ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau, nid ydynt, yn aml, wedi'u gwirio yn y maes gan y Comisiwn Brenhinol. Mae hynny'n arbennig o wir am y safleoedd arforol gan i'r mwyafrif ohonynt gael eu cofnodi o ffynonellau anuniongyrchol, a dylid ystyried bod y data am eu lleoliadau yn dynodi mannau cyffredinol yn unig. Byddai croeso i wybodaeth fanylach sy'n hysbys am eu lleoliad.

Y nod yw llunio rhestr gynhwysfawr o safleoedd archaeolegol a phensaernïol yng Nghymru, ond tasg barhaus yw honno gan y gall ymchwil, arolygon maes neu deithiau hedfan pellach ddod o hyd i ragor o safleoedd, ac ni ellir gwarantu bod y rhestr yn gyflawn. Er y credir bod y wybodaeth a geir yma'n gywir, ni all y Comisiwn Brenhinol nac unrhyw un o'i swyddogion dderbyn cyfrifoldeb dros ganlyniadau unrhyw wall neu fwlch, ac ni dderbynnir unrhyw hawliad am iawndal nac
esgeulustod.

Mynediad i'r safleoedd:

Gan nad yw'r mwyafrif o'r safleoedd neu'r adeiladau yn Coflein ar agor i'r cyhoedd, dylid bob amser ofyn i'r tirfeddiannwr neu'r tenant am ganiatâd i ymweld â safle. Gan fod ffotograffau neu luniadau'n cofnodi adeiladau ar adegau penodol, fe all yr adeilad fod wedi'i ddymchwel, neu fe ellir bod wedi newid ei olwg, ers hynny.

Cynhwysir manylion safleoedd arforol yn Coflein (ond gweler 'Dilysu'). I gael gwybod am ddiogelwch ac am fynediad iddynt, rhaid i ddeifwyr droi at ganllawiau deifio cydnabyddedig. Yn achos llongddrylliadau dynodedig neu safleoedd eraill a warchodir, rhaid cysylltu â Cadw:

Cadw: Henebion Cymru
Plas Carew
5-7 Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ.
Ffôn: 01443 336000

Gwarchodir safleoedd gan y gyfraith:

Caiff llawer o'r safleoedd, yr adeiladau a'r olion arforol eu gwarchod, ac mae'n drosedd eu difrodi. Mae hi hefyd yn drosedd defnyddio canfodydd metel ar Heneb Gofrestredig neu i ddeifio ar longddrylliadau dynodedig heb drwydded. Rhaid i Cadw roi eu caniatâd cyn bod modd newid adeilad rhestredig neu weithio ar Heneb Gofrestredig.

Rheoli'r Datblygu ar safleoedd archaeolegol:

Nid yw Coflein yn addas at ddibenion rheoli datblygu nac am gynnull gwybodaeth ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol heb gael cyngor archaeolegol pellach. Gellir gofyn i bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru am wybodaeth a chyngor pellach at y dibenion hynny, ac maent hefyd yn cadw Cofnodion rhanbarthol o'r Amgylchedd Hanesyddol.

Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth:

Mae Coflein yn rhestru llu o gofnodion yn archif CHCC sy'n deillio o waith datblygu a oedd yn effeithio ar Adeiladau Rhestredig, ac mae gan y Comisiwn Brenhinol dîm arbenigol o staff sy'n cydweithio'n agos â Swyddogion Cadwraeth yr awdurdodau lleol i ddod o hyd i adeiladau hanesyddol, ymchwilio iddynt a'u cofnodi. Defnyddir y cofnodion hynny'n helaeth at ddibenion astudiaethau lleol ac ymchwil i hanes teuluoedd, yn ogystal ag o ran dadansoddiadau pensaernïol manwl. Gellir hefyd eu defnyddio at ddibenion rheoli datblygiadau, ond dylid gofyn i Swyddog Cadwraeth yr awdurdod lleol perthnasol am ragor o wybodaeth a chyngor.

Hawlfraint:

Cedwir hawlfraint ar Coflein ac ar bob data o CHCC. Gellir defnyddio data at ddibenion ymchwil bersonol yn ddi-dâl, ond rhaid i bob allbwn sy'n deillio o ddefnyddio'r data gydnabod y ffynhonnell fel a ganlyn:- Cymerwyd o wybodaeth a gasglwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a/neu hawlfraint y Goron.

Bwriedir i Coflein gael ei defnyddio at ddibenion ymchwil bersonol yn unig. Gellir llwytho data i lawr i ddisg neu eu hallbrintio at ddefnydd personol yn unig, ond ni cheir eu gwerthu, eu hailwerthu, neu hurio allan na'u cylchredeg fel arall, at ddibenion masnachol nac fel arall, heb gael caniatâd y Comisiwn Brenhinol ymlaen llaw.

Os dymunwch ddefnyddio gwybodaeth sy'n deillio o Coflein i'w chyhoeddi ar ffurf brintiedig neu amlgyfrwng neu gasglu adnoddau at ddefnydd masnachol neu sefydliadol, rhaid i chi gael caniatâd ar bapur ymlaen llaw.

Gellir codi ffi hawlfraint am atgynhyrchu.

Sut y trefnwyd i Coflein fod ar gael:

Trefnir i Coflein fod ar gael gyda chymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a thrwy bartneriaeth arloesol â Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban. Yn hael iawn, mae'r Comisiwn hwnnw wedi rhannu ffrwyth blynyddoedd lawer o'i brofiad o ddatblygu Canmore (cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol yr Alban) i ddarparu cam cyntaf Coflein.

Dylid anfon pob sylw at: David Thomas