Chwilio Cofnodion

Cob Traeth Mawr. Y Cob, Porthmadog. 1994. (Image: DI2005_0672 / NPRN: 34165) Hen Bont Pontypridd, Pontypridd. Adeiladwyd yn 1756, gan William Edwards. Diddyddiad. (Image: CD2005_612_013 / NPRN: 24145) Argae Penygarreg, Cynllun D?r Cwm Elan. Ffotograff du a gwyn o argae Penygarreg sy’n dangos mewnfa’r cwlfer, a dynnwyd adeg ei hadeiladu.  O CHCC: Gasgliadau'r Edward Hubbard, 1897. (Image: GTJ63732 / NPRN: 32534)

Ymchwilio i Coflein

www.coflein.gov.uk

Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. Daw enw’r gronfa ddata o’r ddau air cof a lein.

Mae Coflein yn fodd i weld manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru, ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifau a’r ffotograffau sydd yng nghasgliadau archifol CHCC. Mae’r gwasanaeth hefyd yn fodd i chi weld mwy a mwy o luniau ar-lein. Gellir dangos y safleoedd naill ai ar fapiau’r Arolwg Ordnans a’u holi’n ddaearyddol, neu fel cyfres o gyfeiriadau testun. Cewch chwilio’r data fesul lleoliad (enw lle, ardal neu daflen map yr Arolwg Ordnans), fesul math (dosbarthiad neu swyddogaeth safle, heneb neu adeilad) neu fesul allweddair.

Cronfa ddata Saesneg yw Coflein. Mae fersiwn Cymraeg ohoni’n cael ei datblygu. Mae’r rhagymadrodd hwn a’r tudalennau cymorth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar hyn o bryd.

Cysylltau allanol