Chwilio Cofnodion

Tafarn y George and Dragon, Biwmares. Darlun lliw o furlun o’r ail ganrif ar bymtheg gan Dylan Roberts. (Image: CD2003_618_004 / NPRN: 254) Y Groes, Llanbadarn Fawr. Manylyn o’r maen arysgrifedig yn Llanbadarn Fawr. 2004. (Image: DI2006_0810 / NPRN: 308695)

Safonau Digido

Mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru raglen ddigido brysur. Mae’n cynhyrchu fersiynau digidol o ddetholiad o’r cofnodion copi-caled o’i ddaliadau archifol ac yn trefnu iddynt fod ar gael yn uniongyrchol i’r cyhoedd drwy system Coflein. Yr ydym wedi creu ystafell ddigido ac ynddi offer o safon broffesiynol ac yn defnyddio’r offer sganio a’r perifferolion hyn:

Sganiwr swp o negyddion a phrintiau ffotograffig neu luniadau bach – Lanovia Quattro

Sganiwr lluniadau fformat-mawr, cynlluniau a phrintiau mawr iawn – ColourTrac 4280

Gweithredir yr offer sganio drwy – Apple Powermac G5

Graddnodir yr offer sganio’n llawn â monitorau sy’n defnyddio – Pantone ColorVision Spyder

Caiff yr ystafell ddigido ei goleuo a’i pheintio yn yr arlliw o lwyd p?l a argymhellir (Dulux Ice Storm 3 12626) er mwyn cwtogi hyd yr eithaf ar ymyrraeth gan oleuni a adlewyrchir.

Caiff pob ffeil llun ei chynhyrchu a’i diogelu mewn fformat .TIFF heb ei chywasgu, a’r proffil lliw IIC a ddefnyddir yw RGB.

Er bod y paramedrau digido unigol a ddefnyddir wrth sganio deunyddiau archifol gwreiddiol yn amrywio yn ôl natur y deunydd hwnnw, y wybodaeth sydd ynddo a’r allbwn y gall fod angen ei gynhyrchu, mae safonau sylfaenol yn bod ar gyfer digido lluniau archifol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Er mai’r rheiny yw’r safonau isaf sy’n ddymunol, caiff paramedrau uwch eu cymhwyso mewn llawer achos, gan ddibynnu ar fanylder y deunydd gwreiddiol a’r allbwn terfynol y dymunir ei gael.

Caiff pob llun ei sganio i 300dpi o leiaf.

Mae maint allbwn unrhyw ddeunydd gwreiddiol yn dibynnu ar faint o wybodaeth sydd yn y llun, ei ansawdd a’i botensial o ran ei atgynhyrchu. Yn aml, er enghraifft, bydd negyddion neu dryloywderau 645mm a 6x6cm yn awyrluniau y gall fod angen eu helaethu at ddibenion ymchwil. Os nad oes angen eu helaethu, neu os nad yw hynny’n ddymunol oherwydd diffyg ansawdd neu fanylder y llun, gall maint allbwn o 14x9 fod yn ddigon. Yn yr un modd, gall lluniau ffilm 6x7cm a 5x4 fod yn addas at ddibenion eu dangos mewn arddangosfa am fod disgwyl iddynt fod o safon uchel, ac fe allai fod cyfiawnhad dros eu cynhyrchu’n fwy o faint. Dyma ganllaw i feintiau dymunol lleiaf allbwn sawl fformat safonol ar gyfer negyddion a thryloywderau:

Negyddion neu dryloywderau du a gwyn, o’u sganio ar 300dpi 8bit (graddfa lwyd):

35mm i faint allbwn o 14x9 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 10MB.

64.5mm (21/2 modfedd) i faint allbwn o 15x11 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 12MB.

6x6cm (21/4 modfedd) i faint allbwn o 15x15 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 14MB.

6x7cm i faint allbwn o 17x14 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 15MB.

5x4 modfedd i faint allbwn o 20x16 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 25MB.

Negyddion neu dryloywderau lliw, o’u sganio ar 300dpi 24bit (RGB):

35mm i faint allbwn o 14x9 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 35MB.

64.5mm (21/2 modfedd) i faint allbwn o 15x11 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 40MB.

6x6cm (21/4 modfedd) i faint allbwn o 15x15 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 50MB.

6x7cm i faint allbwn o 17x14 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 60MB.

5x4 modfedd i faint allbwn o 20x16 modfedd. Maint y ffeil yw rhyw 80MB.

Printiau Ffotograffig
Os nad oes negydd neu dryloywder ar gael, caiff printiau eu sganio ar o leiaf 100% o’r maint gwreiddiol. Os yw’r ansawdd a’r manylder yn caniatáu hynny, mae modd helaethu printiau i gael cymaint â phosibl o wybodaeth ohonynt.

Lluniadau
Gan fod maint lluniadau a lefel eu manylder, eu tôn a’u harlliwiau yn amrywio cryn dipyn, mae’n anodd pennu safonau canllaw ysgrifenedig ar eu cyfer. Caiff paramedrau cynhyrchu lluniadau digidol eu pennu fesul un wrth i’n Swyddog Digido profiadol gymryd natur y gwreiddiol a’r allbynnau tebygol i ystyriaeth.

Catalogio a Storio
Caiff y metadata technegol penodol sy’n berthnasol i gofnodion digidol eu cofnodi mewn tabl data o Eitemau Digidol yn ein catalog o gofnodion archifol cyfrifiadurol. Gall pob cofnod arno berthnasu naill ai â chofnod catalog ar gyfer copi caled o eitem wreiddiol neu gofnod ar gyfer eitem sydd wedi’i 'geni’n ddigidol'. Dilynir sawl canllaw i arferion a safonau da o ran safon y metadata technegol a gofnodir yn y tabl hwnnw. Os hoffech chi gael gwybod rhagor am y metadata technegol, mae’r Gwasanaeth Data Archaeolegol yn darparu canllaw cynhwysfawr.

Caiff ein ffeiliau archifol digidol eu storio ar yriant caled archifol pell, sef gyriant Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, yng Nghaeredin, sydd hefyd yn storio copïau wrth gefn ar safle arall.

Cysylltau allanol