Chwilio Cofnodion

Llun o oleudy ar y Smalls. Un o set o 22 o sleidiau lliw o arolwg o ardal ddynodedig llongddrylliadau’r Smalls, a wnaed gan yr Uned Deifio Archaeolegol i'r CBHC. 1992. (Image: DI2006_0587 / NPRN: 389) Traphont y Waun, Camlas Ellesmere, Y Waun. 1949. (Image: DI2005_0058 / NPRN: 34406) Town Hill, 5-7a, Wrecsam. Adluniad. Diddyddiad. (Image: CD2005_622_017 / NPRN: 27629)

Safonau

Mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cynnwys gwybodaeth am 70,000 o safleoedd ledled Cymru ac archif o filiwn a rhagor o eitemau. I reoli casgliad o’r fath, rhaid wrth safonau uchel o fynegeio a dulliau effeithlon o adfer gwybodaeth.

Y Comisiwn Brenhinol yw’r sefydliad sy’n arwain yng Nghymru o ran datblygu’r safonau hynny, a bydd yn cysylltu â chyrff tebyg yng Nghymru a gwledydd eraill i sicrhau eu bod yn gydnaws â’r safonau a ddefnyddir gan sefydliadau eraill. Gyda chymorth ein cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru, Cadw a phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, mae’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n datblygu thesawrws o fathau o henebion ar gyfer Cymru. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i lunio fersiwn Cymraeg o’r thesawrws.

Y safonau dan sylw sydd wrth wraidd y mecanweithiau adfer a ddefnyddir ar gyfer y gronfa ddata ar-lein, Coflein. Mae’r gwasanaeth hwnnw’n fodd i gael gwybodaeth am filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol ledled Cymru, ac mae’n eu cysylltu â’r lluniadau, y llawysgrifau, y ffotograffau a’r delweddau digidol sydd i’w cael yng nghasgliadau archifol CHCC.

Cysylltau allanol