Chwilio Cofnodion

Nannerth-Ganol, Cwmteuddwr, Maesyfed. 2000. (Image: DI2005_0028 / NPRN: 81416) Argae Penygarreg, Cynllun Dŵr Cwm Elan. Ffotograff du a gwyn o argae Penygarreg sy’n dangos allfa’r cwlfer, a dynnwyd adeg ei hadeiladu. O CHCC: Gasgliadau'r Edward Hubbard, 1899. (Image: GTJ63738 / NPRN: 32534) Murlun yn Eglwys Llandeilo Tal-y-bont o Watwar Crist. 1998. (Image: DI2005_0794 / NPRN: 94698)

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) sy’n dal y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw.

Mae ynddo dros 1.25 miliwn o ffotograffau a miloedd ar filoedd o luniadau, arolygon, adroddiadau a mapiau yn y casgliadau hyn:

Prif gyfres y ffeiliau o gofnodion: ceir ynddi ffotograffau, lluniadau, adroddiadau, gohebiaeth, ac ati.

Y casgliad o luniadau: mae’n cynnwys bron 11,000 o luniadau o lawer math.

Y casgliad o negyddion ffotograffig: mae’n cynnwys rhyw filiwn o negyddion ac, yn eu plith, enghreifftiau hanesyddol bwysig, a bregus, o dechnegau ffotograffig cynnar.

Y casgliadau o awyrluniau: mae ynddynt ryw 200,000 o ffotograffau, gan gynnwys rhai fertigol a lletraws. Daw’r ffotograffau o raglen hedfan y Comisiwn Brenhinol ei hun ac o ffynonellau mawr eraill, gan gynnwys yr Arolwg Ordnans a’r Awyrlu Brenhinol.

Mapiau’r Arolwg Ordnans: delir rhyw 30,000 o fapiau graddfa-fawr. Maent yn ymwneud â Chymru gyfan mewn sawl argraffiad ac ar amrywiol raddfeydd.

Casgliadau arbennig: yn ogystal â’r casgliadau cyffredinol, mae yma lu o gasgliadau arbennig a roddwyd, neu a roddwyd ar fenthyg, gan sefydliadau eraill ac unigolion, neu sy’n ffrwyth prosiectau penodol CBHC.

Yr archif digidol: dyma gasgliad cynyddol o ffotograffau, testunau ac arolygon digidol a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Brenhinol neu ffynonellau allanol. Lle bynnag y bo modd, trefnir iddynt fod yn uniongyrchol hygyrch drwy Coflein.

Casgliadau’r Llyfrgell: mae gan CHCC hefyd lyfrgell arbenigol, a’i nod yw darparu ffynonellau cyhoeddedig i gydategu’r wybodaeth anghyhoeddedig sydd ar gael yn yr archif.

I gael gwybod rhagor am y casgliadau archifol, ewch i’r tudalennau ar Hanes a Chasgliadau CHCC

Chwiliwch Coflein i ddod o hyd i wybodaeth am safle penodol a chofnodion archifol cysylltiedig.

Cysylltau allanol