Gellir holi mynegai CARN mewn tair ffordd wahanol:
Chwiliad Syml
Os teipiwch chi’ch ymholiad i’r blwch ‘chwilio’, caiff yr holl ddata ar
lefel mynegai eu chwilio ac fe gewch chi’r deunydd agosaf.
Chwilio yn ôl lleoliad
Os cliciwch chi ar y map chwiliadwy o Gymru, fe agorwch chi fap sy’n dangos yr holl awdurdodau unedol yng Nghymru. Yna, gallwch glicio ar yr ardal sy’n berthnasol i chi a chewch ddata am y safleoedd sydd o fewn 10km i’r lleoliad hwnnw. Neu fe allwch chi deipio cyfeirnod grid cenedlaethol yn uniongyrchol i ‘chwilio yn ol cyfeiriad grid’ a phennu’r pellter y mae arnoch ei angen.
Chwiliad Manwl
Bydd hwn yn agor tudalen chwilio sy’n dangos yr holl feysydd mynegai. Os teipiwch chi werth i’r meysydd, ni fydd y gronfa ddata ond yn chwilio’r maes hwnnw.
Sylwch na fydd CARN ond yn dychwelyd 100 o gofnodion ar y mwyaf. Os na allwch chi ddod o hyd i’r cofnod yr ydych chi’n chwilio amdano, ceisiwch fireinio’ch chwiliad yn y Chwilio Manwl.