Chwilio Cofnodion

Abaty Ystrad Fflur, Pontrhydfendigaid. Diddyddiad. (Image: CD2003_625_024 / NPRN: 95764) Rhes y Saith Maen, Cwm Tawe Uchaf. 1981. (Image: CD2003_607_003 / NPRN: 84328) Cerig, Rhoscolyn. Bwthyn wedi mynd â’i ben iddo gyda pheth o’i do gwellt ar ôl. 1930. (Image: CD2003_619_023 / NPRN: 15641)

CARN

Mae CARN yn adnodd gwybodaeth cenedlaethol ar gyfer archaeoleg a phensaernïaeth. Fe’i casglwyd ynghyd gan sefydliadau archaeolegol ledled Cymru. Cynhwysir cofnodion y sefydliadau hyn (cewch y cysylltau isod):

CSH Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CSH = Cofnod o Safleoedd a Henebion)

CSH Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

CSH Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

CSH Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent

Cadw (Cronfeydd data o Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig)

Y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy

Amgueddfa Cymru (Cronfa Ddata o Archaeoleg a’r Casgliad Niwmismateg)

Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru y Comisiwn Brenhinol

Yn CARN cewch wybodaeth sylfaenol sy’n rhoi mynediad i’r cofnodion manylach sydd gan bob sefydliad unigol. I gael gwybod rhagor am safle, rhowch y cyfeirnodau perthnasol i’r corff perthnasol drwy ddefnyddio’r cyswllt e-bost i’r corff hwnnw neu, yn achos cofnodion y Comisiwn Brenhinol, dilynwch y cyswllt i gronfa ddata Coflein neu holwch drwy ddefnyddio’r ffurflen ymholi ar-lein.

Sylwch y bydd y chwiliadau’n holi pob cronfa ddata yn CARN, ac y gall cofnodion gael eu dyblygu o fwy nag un ffynhonnell. Gallwch hefyd chwilio CARN gan ddefnyddio map cliciadwy.

Cysylltau allanol