Yn ôl i'r dyddiadur digwyddiadau
Dyddiad y digwyddiad: 14 Gorffennaf 2012, 14:00
Lleoliad: Cyfarfod ym maes parcio’r Neuadd Goffa, Penparcau SY23 1SA
Math o ddigwyddiad: Gŵyl Archaeoleg Prydain:Taith dywys
Ymwelydd arbennig:
Dr Toby Driver
Manylion pellach:
Dewch i ddringo i’r fryngaer fwyaf o’r Oes Haearn ar arfordir y gorllewin – rhagflaenydd Aberystwyth heddiw. O dan arweiniad arbenigwr, fe astudir safleoedd y pyrth cadarn, amlygir sylfeini’r tai crwn, a thrafodir tirwedd ehangach yr Oes Haearn o’r safle naturiol ac anhygoel hwn. Cewch chi glywed hanes bryn Pendinas – o gyfnod yr helwyr yn Oes Ganol y Cerrig hyd at godi’r gofeb i Ddug Wellington. Dewch i faes parcio Neuadd Goffa, Penparcau, SY23 1SA erbyn 2pm. Argymhellir gwisgo esgidiau cadarn i gerdded y llwybr cyhoeddus, a all fod yn fwdlyd, yn ôl ac ymlaen i’r copa. Dringo rhesymol o egnïol. Croeso i bob oedran.
Darperir lluniaeth am 4pm gan
Cymunedau yn Gyntaf
yn Y Galeri, 3 Glandinas, Penparcau (nesaf at siop y cigydd).
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Archaeoleg Prydain a Gŵyl Archaeoleg Prydain ewch i www.archaeologyfestival.org.uk