Amdanom Ni

Camlas Abertawe, Traphont Clydach Isaf. 2005. (Image: DI2006_0865 / NPRN: 34503) Llyn Gafr, Craig Las. Llun o’r llwybr igam-ogam i’r copa. Diddyddiad. (Image: CD2005_605_007 / NPRN: 55712)

Yn ôl i'r dyddiadur digwyddiadau

Ysgol Undydd y Gwanwyn IFA Cymru Adeiladau: rhai dulliau cofnodi, dadansoddi, diogelu, ailddefnyddio a chyflwyno

Dyddiad y digwyddiad: 18 Mai 2012, 10:15

Lleoliad: Sefydliad Owain Glyndŵr, Machynlleth.

Math o ddigwyddiad: Ysgol Undydd

Manylion pellach:

Ar Ddydd Gwener, 18 Mai, 2012, bydd Susan Fielding, ymchwilydd adeiladau’r Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs yn Ysgol Undydd y Gwanwyn IFA Cymru a gynhelir yn Sefydliad Owain Glyndŵr, Machynlleth.

Bydd y diwrnod yn dechrau am 10.15am ac yn gorffen am 4.15pm ac am 2.15pm bydd Susan yn rhoi sgwrs ar “Ymagwedd CBHC at Arolygu Adeiladau”. Rhai o’r siaradwyr eraill ar y diwrnod fydd Rod Bale (Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan): “Dyddio drwy flwyddgylchau ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru”; Margaret Dunn (Cyfarwyddwr Prosiect Dendrocronoleg Gogledd-Orllewin Cymru): “Hynt a helynt gweithio gyda gwirfoddolwyr”; a Liz Green (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol): “Defnyddio data cofnodi adeiladau manwl wrth ddiogelu adeiladau hanesyddol”.

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu’ch lle, cysylltwch â John Latham 07774 877834 neu Ian Brooks