Amdanom Ni

Traphont Reilffordd y Waun. Llun o ochr ogledd-ddwyreiniol y draphont gan edrych tua’r de o bentan y draphont, a chwch yn croesi’r draphont. 1/6/2005. (Image: DS2005_033_005 / NPRN: 87002) Glyn, Llanfair Mathafarn Eithaf. Gwaith plastr o’r 17eg ganrif. Diddyddiad. (Image: CD2003_604_037 / NPRN: 15694) West Block-house, Dale. (Image: DI2006_1233 / NPRN: 276037)

Yn ôl i'r dyddiadur digwyddiadau

Gorffennol Digidol 2010

Dyddiad y digwyddiad: 16 Chwefror 2010 - 17 Chwefror 2010

Lleoliad: Sain Ffagan:Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd

Math o ddigwyddiad: Cynhadledd

Ymwelydd arbennig:
.

Manylion pellach:

Gan adeiladu ar lwyddiant y gynhadledd Gorffennol Digidol gyntaf yn Aberystwyth, bydd Gorffennol Digidol 2010 yn cynnig deuddydd o ddigwyddiadau a gynhelir yn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan ac o’u hamgylch. Cyfunir papurau cynhadledd, seminarau a sesiynau hyfforddi ymarferol i ymdrin â’r technegau arolygu a dehongli diweddaraf ac â’u cymhwyso’n ymarferol at ddehongli ac addysgu am dreftadaeth.

Bydd y gynhadledd yn apelio at bawb sy’n gweithio yn y sector archaeolegol, y sector treftadaeth, y sector dehongli a sector yr amgueddfeydd. Bydd y gweithdai’n fodd i gael hyfforddiant ymarferol gan yr arbenigwyr mewn trin cymwysiadau meddalwedd, GIS, sganio â laser a thechnegau arolygu a delweddu eraill.

Cadarnhawyd y papurau a’r seminarau ar y pynciau hyn:

  • Defnyddio technoleg ddigidol ym maes dehongli gan amgueddfeydd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Methodolegau archwilio ar y cyd: Sefydliad Ludwig-Boltzmann ar gyfer Archwilio Archaeolegol ac Archaeoleg Rithwir, Vienna
  • Gwella’r Profiad o Dreftadaeth drwy gyfrwng Realiti Acwstig ac Ymchwil Sain: Prifysgol Caerefrog
  • Arfau ac arbenigedd ar gyfer ffurfio casgliadau 3D: Prifysgol Brighton
  • LIDAR ac arolygu archaeolegol: English Heritage
  • Delweddu llong ganoloesol Casnewydd drwy gofnodi mewn 3 dimensiwn: Prifysgol Llanbedr Pont Steffan
  • Realitïau gwahanol wrth adlunio tai crwn o’r Oes Haearn: Prifysgol Bangor a CBHC
  • Sagnio â Laser: Leica ac English Heritage
  • Gwybodaeth ryngweithiol mewn amgylchiadau treftadaeth: Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan a CBHC