Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg
Dyddiad Lawnsio: 2009-01-17
Datganiad i'r wasg:
Yn dilyn cyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn Seville, mae Cymru’n swyddogol wedi ennill eu trydydd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yng Nghefn Mawr, Wrecsam, yng ngogledd orllewin Cymru, yw’r trydydd safle yng Nghymru. Y ddau safle arall yw Tirlun Diwydiannol Blaenafon (ddynodwyd yn 2000) a Chestyll a Waliau Trefol y Brenin Edward yng Ngwynedd (dynodwyd 1986), ac maent oll yn drysorau hanesyddol hynod o werthfawr sydd wedi goroesi traul blynyddoedd.
Pontcysyllte yw’r 28ain safle Treftadaeth y Byd yn y Deyrnas Unedig, ond ef yw’r cyntaf i groesi’r ffin rhwng dwy wlad - gan fod rhan o’r gamlas 11 milltir yn ymestyn i Loegr.
A hithau yn un o orchestion pwysicaf y peiriannydd sifil Thomas Telford, mae’r ddyfrbont fawreddog hon, sydd yn dyddio’n ôl i 1805, yn gampwaith o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Dyfrffyrdd Prydain a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru fu’n arwain o ran enwebu’r safle. Mae Cadw, gwasanaeth hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi sicrhau cadwraeth statudol yr heneb drwy gofrestru a rhestru holl rediad y gamlas gan gynnwys y dyfrbontydd, pontydd a thwneli.
Wedi ei hadeiladu dros yr Afon Dyfrdwy, mae Dyfrbont Pontcysyllte yn boblogaidd iawn, ac yn croesawu miloedd o gychod camlas bob blwyddyn, bron i 204 o flynyddoedd wedi iddi agor gyntaf. Mae’r ddyfrbont 126 llath uwchlaw’r afon ac yn 1,007 llath o hyd, ond yn ddim ond 11 troedfedd o led a’r dŵr prin 5.25 troedfedd o ddyfnder. Mae’n cynnwys cafn haearn a gynhelir gan asennau crwm haearn, sy’n cael eu cadw yn eu lle gan deunaw o bileri cerrig.
Yn ôl Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, “Pan wnaethom gais i UNESCO i Ddyfrbont Pontcysyllte gael ei chydnabod fel Safle Treftadaeth y Byd roeddem yn hyderus y byddent yn cadarnhau'r hyn ydym ni eisoes yn ei wybod am y Ddyfrbont anhygoel hon adeiladwyd gan Thomas Telford. A nawr bod Pwyllgor Treftadaeth y Byd wedi gwireddu ein dymuniadau, mae’n cadarnhau gwerth byd-eang Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte a’r cyfraniad pwysig a wnaeth yn ystod y chwyldro diwydiannol. Mae cynnwys Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte ar restr Treftadaeth y Byd yn newyddion gwych o ran amgylchedd hanesyddol trafnidiaeth a diwydiant yng Nghymru.”
Ychwanegodd Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Mae Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn enghraifft wych o dreftadaeth Cymru ar waith. Hon oedd dyfrbont fordwyol uchaf y byd am ddwy ganrif ac mae’n parhau i fod yn un o’r camlesi prysuraf yn y D.U. gyda thua 15,000 o gychod yn teithio arni bob blwyddyn. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm â’r enwebiad hwn. Bydd y statws Treftadaeth y Byd yn rhoi hwb i economi a thwristiaeth gogledd-orllewin Cymru, yn ogystal â rhoi cydnabyddiaeth fyd-eang i dreftadaeth yr ardal ac yn sicrhau fod y Ddyfrbont yn cael ei gwarchod a’i chynnal am flynyddoedd i ddod. Hoffwn ddiolch i Cadw a’r Comisiwn Brenhinol am y rôl allweddol maent wedi chwarae wrth baratoi’r cais hwn.”
Ychwanegodd Barbara Follett, Gweinidog Diwylliant a Thwristiaeth y DU, “Mae Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn enghraifft wych o dreftadaeth y D.U., a’r hyn sy’n ei wneud yn fwy anhygoel yw ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Rwy’n siŵr y bydd ennill statws Treftadaeth y Byd yn hwb haeddiannol i’r ardal.”
Dywedodd Julie Sharman, Rheolwr Cyffredinol Dyfrffyrdd Prydain, Cymru a’r Gororau fod y wobr yn gyfle gwych i gychwyn cyfnod newydd o ffyniant yng ngogledd Cymru a’r Mers. “Mae derbyn y statws hwn yn golygu fod yr atyniad hamdden gwych yma wedi derbyn y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ac yn rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer ffyniant economaidd yn y gymuned leol,” medd Ms Sharman.
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y Cynghorydd Aled Roberts, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Mae hwn yn newyddion gwych. Mae Dydfrbont Pontcysyllte yn rhan bwysig iawn o’n treftadaeth ac mae’r trigolion lleol yn ei pharchu’n fawr iawn. Rydym yn hynod o falch o dderbyn y statws hwn yn Wrecsam a’r gobaith yw y bydd yn arwain at adfywiad economaidd nid yn unig yn y cymunedau ger y gamlas ond hefyd i’r cymdogion yn Sir Ddinbych a Sir Amwythig.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Dutton, Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau a’r prosiect, “Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad, ffrwyth llafur blynyddoedd o waith gan swyddogion a Chynghorwyr, a’n partneriaid. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidogion yn y Cynulliad ac yn y Llywodraeth yn San Steffan, a’u swyddogion, sydd wedi’n cynhorthwy i gael y maen i’r wal. Yn dilyn fy ymweliad gyda safle Treftadaeth y Byd yng ngogledd yr Eidal llynedd, rwyf yn argyhoeddedig fod hwn yn gyfle gwych i ni gynyddu twristiaeth a chreu prosiectau busnes fydd o fudd i’n cymunedau lleol.”
Ymysg y partneriaid eraill fu ynghlwm â’r prosiect hwn roedd English Heritage, Cyngor Sir Amwythig, Cyngor Sir Ddinbych, Inland Waterways Association a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
DIWEDD
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen, Cambrensis ar 029 20 257 075
Rhifau cyswllt ar gyfer y wasg dros y penwythnos:
Dirprwy Swyddog y Wasg Cynulliad Cymru – 029 20 898 099
Sian Rees, Cadw + 00 44 (0)7968 609 820. Bydd Sian Rees ar gael yn Seville, Sbaen
Peter Wakelin, RCAHMW – 07910 518 042. Bydd Peter Wakelin ar gael yn Llangollen
Rhodri Ellis Owen – 07885 416 103. Bydd Rhodri (sy’n siarad Cymraeg) ar gael yng Nghaerdydd
Michelle J. Kozomara, Dyfrffyrdd Prydain – 07917 899 222
Gill Stevens, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – 07835 989 756
Nodyn i’r Golygydd
Mae cyswllt i’r Ddogfen Enwebu yn www.wrexham.gov.uk/english/heritage/pontcysyllte_campaign