Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg
Dyddiad Lawnsio: 2011-01-25
Datganiad i'r wasg:
DATGANIAD I'R WASG
18 Ebrill 2008
Dyfarniadau am ymchwil ar y cyd ar hanes Cymru
Mae academyddion o Adran Hanes Prifysgol Abertawe wedi derbyn dau ddyfarniad am ymchwil ar y cyd gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Rhoddwyd y dyfarniadau, sy'n werth bron i £48,000 yr un, gan Gynllun Dyfarniadau Doethuriaethau Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Byddant yn cyllido dwy ysgoloriaeth ymchwil ôl-radd o bwys am brosiectau ar
‘Perchenogion llongau, hanes morwrol a threfol’ ac 'Amgylchedd hanesyddol chwaraeon Cymru’.
Bwriad y gwobrau yw annog a datblygu cydweithrediad rhwng prifysgolion a sefydliadau anacademaidd. Maent hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD ennill profiad ymarferol o waith y tu allan i amgylchedd academaidd.
Bydd y prosiect cyntaf, sy'n gydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Dr Louise Miskell, uwch-ddarlithydd mewn Hanes yn y Brifysgol, yn ymchwilio i rôl y perchenogion llongau mewn hanes trefol.
Mae cofnodion perchenogaeth llongau ym mhorthladd Abertawe, a gedwir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Gwasanaethau Archifau Gorllewin Morgannwg, yn cynnig cyfle i adnabod y prif gyllidwyr a oedd ar waith yng nghymuned forwrol Abertawe yn ystod y 19eg ganrif ac i asesu i ba raddau roedden nhw'n ffurfio grŵp â hunaniaeth gydlynus gyda llais penodol mewn llywodraeth drefol.
Bydd yr ail brosiect, sy'n gydweithrediad rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Dr Martin Johnes, darlithydd mewn Hanes yn y Brifysgol, yn archwilio amgylchedd hanesyddol chwaraeon Cymru.
Gan ddefnyddio hen fapiau, casgliadau ffotograffaidd hanesyddol, a chofnodion sefydliadau chwaraeon fel Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chynghreiriau lleol, bydd ymchwilwyr y prosiect yn catalogio prif leoliadau chwaraeon Cymru ac yn nodi pwysigrwydd pensaernïol a hanesyddol mannau llai hysbys a rhai angof.
Meddai Dr David Jenkins Uwch-Guradur Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Adran Diwydiant Amgueddfa Cymru: “Tra bo llawer o ramant yn gysylltiedig â hanes 'Morwyr yr Horn' o Abertawe, cymharol ychydig o ymchwil o ddifrif a wnaed ar griwiau'r llongau mwyn copr, strwythur ariannol perchenogi llongau yn y 19eg ganrif a statws perchenogion llongau yng nghymuned y dref ar y pryd.
“Bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon yn ychwanegu'n sylweddol at ein gwybodaeth o weithgaredd morwrol Cymru yn y 19eg ganrif, gyda phwyslais arbennig ar rôl Abertawe yn y stori honno.”
Dywedodd Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Er mai ni yw sefydliad cenedlaethol cofnodi etifeddiaeth adeiledig Cymru, dydyn ni ond wedi llwyddo i wneud ychydig o waith arolwg ar etifeddiaeth chwaraeon Cymru hyd yn hyn, er enghraifft cofnodi chwalu'r Stadiwm Genedlaethol yng Nghymru ac adeiladu Stadiwm y Mileniwm trwy ffotograffiaeth o'r awyr.
“Mae hyn yn gyfle gwych i roi mannau chwaraeon Cymru, yn rhai mawr a bach, ar y map treftadaeth, gyda manylion ar gael i bawb trwy ein harchif cyhoeddus a gwasanaethau gwybodaeth ar-lein.”
Dywedodd Dr Martin Jones o Brifysgol Abertawe: "Bydd y ddau brosiect yn help i ddatblygu gwybodaeth academaidd, a hefyd yn creu adnoddau a gaiff eu defnyddio gan y cyhoedd ehangach. Mae'r dyfarniadau’n dangos ymrwymiad yr Adran hanes i weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ac i'w rôl yn y gymuned hanesyddol ehangach.
“Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil hefyd yn rhoi cyfle ardderchog sy'n mynd y tu hwnt i ddoethuriaethau arferol i'r rhai llwyddiannus i adeiladu gyrfaoedd mewn Hanes.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Evans, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050 neu e-bostiwch wasg@abertawe.ac.uk.