Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg
Dyddiad Lawnsio: 2012-06-25
Datganiad i'r wasg:
Mae mwy na 15,000 o ddelweddau o un o’r casgliadau cynharaf a phwysicaf o awyrluniau o’r Deyrnas Unedig bellach ar gael ar-lein yn ddi-dâl i’r cyhoedd am y tro cyntaf.
Mae Britain from Above, gwefan newydd (www.britainfromabove.org.uk) a lansiwyd heddiw (25 Mehefin 2012) gan English Heritage, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn cynnwys rhai o’r delweddau hynaf a mwyaf gwerthfawr o Gasgliad Aerofilms, archif unigryw a phwysig o fwy na miliwn o awyrluniau a dynnwyd rhwng 1919 a 2006. Mae ei rychwant cronolegol a daearyddol yn wych ac mae’n cofnodi wyneb gwledydd Prydain ar adeg o newid syfrdanol nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Mae’r ffotograffau ar y wefan yn dyddio o 1919 hyd 1953, a chymerwyd gofal mawr i’w diogelu a’u catalogio. Gan eu bod mor hen a bregus, roedd llawer o’r negatifau platwydr cynharaf yn agos at gael eu colli am byth.
Prynwyd Casgliad Aerofilms i’r genedl yn 2007 pan oedd y cwmni’n wynebu trafferthion ariannol. Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Foyle, rhoddodd English Heritage a’r Comisiynau Brenhinol raglen ar waith i ddiogelu, catalogio a digido’r casgliad a’i roi ar-lein fel y gallai pawb ei gyrchu’n ddi-dâl.
Rhai o’r digwyddiadau a lleoedd mwyaf diddorol a gofnodir yw: yr ornest baffio gyntaf yn Stadiwm Wembley ym 1924; Afon Tafwys yn gorlifo ym 1947 ac yn difrodi mwy na 100,000 o adeiladau; Blackpool yn y 1920au; torfeydd ar lannau Afon Clyde yn gwylio mordaith gyntaf RMS Queen Mary ym 1936; Gwesty Gleneagles yn Swydd Perth ym 1932, lle cynhelir Cwpan Ryder 2014; Parc yr Arfau Caerdydd, y stadiwm hanesyddol, ym 1932; a golygfa o’r Rhondda Fawr, un o gymoedd glofaol mwyaf de Cymru.
Cewch weld a lawrlwytho detholiad o ddelweddau yma
Mae gwefan Britain from Above yn rhyngweithiol iawn a’r nod yw annog cymaint o bobl â phosibl i fanteisio arni. Gall defnyddwyr lwytho delweddau i lawr, creu eu horielau eu hunain o ffotograffau ar thema benodol, rhannu atgofion personol, ac ychwanegu gwybodaeth i gyfoethogi dealltwriaeth o’r lluniau. Gwahoddir y cyhoedd hefyd i ddarganfod lleoliad nifer o ddelweddau “dirgel” sydd wedi trechu’r arbenigwyr.
Meddai Anna Eavis, Pennaeth yr Archif, English Heritage: “Mae Casgliad Aerofilms yn ymgorffori popeth sy’n gyffrous am ffotograffiaeth o’r awyr. Yr hyn sydd yr un mor hynod ydy sgil y staff arbenigol yn Lloegr, yr Alban a Chymru sydd wedi achub a diogelu’r negatifau a phrintiau bregus hyn a’u troi’n ddelweddau o ansawdd uchel y gallwch chi eu gweld ar sgrin cyfrifiadur heddiw. Rydyn ni’n falch bod yr eitemau wedi cael cartrefi diogel am y tymor hir a bod yr holl gyrff sydd wedi cymryd rhan wedi cael eu cyfoethogi’n aruthrol gan yr adnoddau ychwanegol.”
Meddai Rebecca Bailey, Pennaeth Addysg ac Estyn-Allan, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban: “Mae cysylltiad annatod rhwng hanes Aerofilms a hanes Prydain fodern. Roedd y peilotiaid a ffotograffwyr gwreiddiol wedi bod yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe ddefnyddion nhw’r sgiliau arbenigol roedden nhw wedi’u dysgu bryd hynny i gyflawni’r dasg o gofnodi Prydain o’r awyr.
“Rhwng 1919 a 1953, roedd ffabrig cymdeithasol, pensaernïol a diwydiannol gwledydd Prydain wedi newydd yn gyflym ac ar raddfa fawr, ac mae Aerofilms yn darparu persbectif unigryw, heb ei ail, ar y cynnwrf anferth yma. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl heddiw yn gallu eu trwytho eu hunain yn y gorffennol drwy archwilio’r wefan newydd, ac y byddan nhw’n ychwanegu eu meddyliau a’u hatgofion eu hunain at y casgliad gwych yma.”
Meddai Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Mae lluniau o leoedd cyfarwydd oddi uchod bob amser o ddiddordeb mawr i bobl, ac mae gweld yr un lleoedd dros gyfnod o amser yn ychwanegu at y pleser yma. Gwyddom fod pobl yn cael eu swyno gan ddelweddau o’r fath, ac rydw i’n siwr y byddan nhw ymhlith y mwya’ poblogaidd yn ein casgliadau cyn pen dim.”
Erbyn diwedd y project yn 2014, bydd 95,000 o ddelweddau a dynnwyd rhwng 1919 a 1953 ar gael ar-lein, yn gofnod o’r newidiadau mawr ym Mhrydain fodern.
[diwedd]
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Renee Fok ar 0207 973 3297 neu e-bostiwch renee.fok@english-heritage.org.ukk
Nodiadau i Olygyddion
1.Casgliad Aerofilms Mae Casgliad Aerofilms yn cynnwys mwy na miliwn o eitemau, gan gynnwys negatifau ac albymau o ffotograffau. Yn dyddio o 1919 hyd 2006, mae’r delweddau’n dangos y newidiadau mawr sydd wedi digwydd yng ngwledydd Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Dyma’r casgliad mwyaf a phwysicaf o awyrluniau o Brydain a dynnwyd cyn 1939.
Cafodd y casgliad ei greu gan Aerofilms Ltd, cwmni arolygu o’r awyr arloesol a sefydlwyd gan F L Wills a C Grahame-White, a fu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ychydig ar ôl diwedd y rhyfel ym 1919. Cyfraniad Wills i’r bartneriaeth oedd brwdfrydedd a gwybodaeth am ffotograffiaeth o’r awyr. Roedd Grahame-White, ar y llaw arall, yn awyrennwr arloesol a’r Sais cyntaf i gymhwyso ar gyfer tystysgrif awyrennwr (Aero Club de Paris) a daeth yn enwog yn Lloegr bedwar mis yn ddiweddarach pan wnaeth yr hediad nos cyntaf yn ystod ras awyr Llundain-Manceinion.
Gan ddechrau gyda £3000 yn unig o gyfalaf, aeth y cwmni o nerth i nerth, wedi’i sbarduno gan ddatblygiadau technolegol cyflym y Rhyfel Byd Cyntaf, o ran peirianneg awyrennau a rhagchwilio o’r awyr. Ar y dechrau, cafwyd benthyg awyrennau gan y London Aeroplane Club a chafodd platiau gwydr eu datblygu mewn ystafell ymolchi yn y London Flying Hotel ar safle Hendon lle’r oedd Aerofilms wedi agor swyddfa.
Wrth i’r galw am y gwasanaeth gynyddu, roedd angen iddynt hedfan yn fwy rheolaidd, felly dechreuwyd rhentu awyrennau a chyflogi peilotiaid fel Gerry Shaw, y peilot cyntaf erioed i hedfan awyren fasnachol ryngwladol (ym 1919, o’r Iseldiroedd i Loegr, gyda dau deithiwr, gan lanio yn Croydon).
Yn ogystal â thynnu ei delweddau ei hun, ehangodd Aerofilms ei archif drwy brynu dau gasgliad llai – AeroPictorial (1934-1960) ac Airviews (1947-1991).
Cafodd y casgliad mawr hwn o awyrluniau hanesyddol ei brynu gan English Heritage, mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gan Blom ASA yn 2007, gyda chymorth ariannol rhoddwyr a chefnogwyr English Heritage, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol a Chyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol. Cyd-reolir y casgliad gan y tri phartner.
2. Archif English Heritage yw un o’r rhai mwyaf sydd ar gael i’r cyhoedd yn y DU a dyma’r archif mwyaf sy’n ymdrin â’r amgylchedd hanesyddol. Mae ganddo gatalog ar-lein enfawr yn www.englishheritagearchives.org.uk lle gallwch weld ffotograffau sy’n dyddio o’r 1850au hyd heddiw, yn ogystal ag adroddiadau, lluniadau, a chynlluniau o adeiladau a safleoedd archaeolegol yn Lloegr. Fe’i cynhelir gan English Heritage yn Swindon lle ceir Ystafell Chwilio Gyhoeddus.
3. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban yn casglu, cofnodi a dehongli gwybodaeth am dreftadaeth bensaernïol, ddiwydiannol ac arforol yr Alban. Bu’n gwneud hyn ers dros gan mlynedd ac mae ei archif helaeth yn cynnig golwg unigryw ar natur arbennig lleoedd yr Alban. Mae hefyd yn dal Casgliad Cenedlaethol yr Alban o Awyrluniau ac un o’r casgliadau mwyaf a phwysicaf o awyrluniau rhyngwladol.
4. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol a rhyngwladol.
Cyswllt yn CBHC: Nicola Roberts