Amdanom Ni

Llangollen Canal (Image: DS2007_063_001 / NPRN: 405725 / Source: RCAHMW) Traphont Pontcysyllte, Camlas Llangollen, Froncysyllte. 2005. (Image: DI2005_0878 / NPRN: 34410)

Yn ôl i dudalen y Datganiadau i'r Wasg

• Casgliad Aerofilms

Dyddiad Lawnsio: 2011-01-13

Datganiad i'r wasg:
Caiff un o’r casgliadau cynharaf a phwysicaf o awyrluniau arosgo o’r Deyrnas Unedig fod yn destun gwaith cadwraeth cyn i’r lluniau gael eu digido a’u gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd, diolch i grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri o £1,755,722.

Bydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ynghyd ag English Heritage a Chomisiwn Brenhinol Henebion yr Alban, yn defnyddio’r arian i gyflawni rhaglen gadwraeth pedair-blynedd ar y ffotograffau hynaf a mwyaf gwerthfawr yng Nghasgliad Aerofilms. Yna, trefnir i’r delweddau hynny fod ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim.

Prynwyd Casgliad Aerofilms i’r genedl yn 2007, ac mae’r filiwn a rhagor o ffotograffau ynddo’n dyddio o 1919 tan 2006 ac yn rhoi darlun digymar o’r newidiadau yng ngolwg Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Bydd y rhaglen pedair-blynedd yn cychwyn yn 2011 ac yn gofyn i’r cyhoedd rannu eu hatgofion a’u gwybodaeth am gynnwys y delweddau. Gwneir gwaith cadwraeth ar y negyddion bregus a chânt eu sganio i fformat digidol. Caiff gwefan newydd, Prydain o'r Awyr, ei lansio ddiwedd 2011. Erbyn 2014, bydd 95,000 o ddelweddau a dynnwyd rhwng 1919 a 1953 i’w gweld ar-lein.

Meddai Hilary Malaws, Pennaeth Cangen Rheoli Gwybodaeth CBHC, “Bydd grant Cronfa Treftadaeth y Loteri yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gweld y casgliad hynod hwn, a bydd cyfle iddyn nhw rannu eu hatgofion a’u gwybodaeth gyda phobl eraill.”

Dewch i weld rhai o ddelweddau hynod ddifyr Aerofilms ...

Swyddi Gwag