Amdanom Ni

Murlun yn Eglwys Llandeilo Tal-y-bont o Watwar Crist. 1998. (Image: DI2005_0794 / NPRN: 94698) Cloddio yng Nghastell Sycharth. O gasgliad Sycharth D.B. Hague. Diddyddiad. (Image: DI2006_0984 / NPRN: 306999) Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 2000. (Image: CD2003_606_023 / NPRN: 309686)

Y Wasg a Newyddion:Gwasanaethau i’r cyfryngau

Gall y Comisiwn Brenhinol ddarparu:

Lluniau o’n llyfrgell o fwy na 1.25 miliwn o luniau, gan gynnwys awyrluniau, golygon hanesyddol, adluniadau, ffotograffau cofnodi a chynlluniau.

Gwybodaeth am safleoedd a lleoliadau penodol neu bynciau hanesyddol a phensaernïol.

Sylwebaeth arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd sy’n ymwneud ag archaeoleg, pensaernïaeth a’r dreftadaeth adeiledig.

I gael gwybodaeth am leoedd neu safleoedd penodol, chwiliwch ein cronfa ddata ar-lein Coflein. Neu mae modd cysylltu â’n gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus

Newyddion

Mae’r holl ddeunydd a gynhwysir yn natganiadau’r Comisiwn Brenhinol i’r wasg ar gael i’w ddefnyddio’n syth yng nghyd-destun storïau newyddion perthnasol. Gan amlaf, bydd lluniau ychwanegol ar gael. Dylid rhoi ‘Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru’ wrth bob llun.

Newyddion yn archif y Comisiwn Brenhinol.