Mae darparu gwybodaeth yn rhan ganolog o waith y Comisiwn Brenhinol, ac mae’r Tîm Gwasanaethau Data’n sicrhau bod ein data’n cael eu rheoli yn unol â’r safonau rhyngwladol priodol. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau ar-lein i sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn eang. Mae ein cronfa ddata ar-lein, Coflein, yn ganolog i’r holl waith hwn: gellir ei defnyddio i holi dros 80,000 o gofnodion safle ac i gyrchu dros 60,000 o ddelweddau’n uniongyrchol.
Drwy ein gwasanaeth Cymru Hanesyddol gellir holi data ochr yn ochr â gwybodaeth gyffelyb, gan gynnwys data am adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, sy’n cael ei dal gan gyrff eraill megis Cadw, Amgueddfa Cymru, a phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. I wneud hyn, goruchwyliwn Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru ac arweiniwn y gwaith o bennu a gweithredu safonau data ar gyfer y sector.
Mae gwaith y tîm gyda Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a delweddu tri dimensiwn wedi gwneud cyfraniad mawr i Gasgliad y Werin Cymru, ac arweiniwn ei waith yn y maes hwn. Rydym hefyd wedi cyfrannu dros 10,000 o eitemau digidol i’r casgliad. Mae’r tîm yn gofalu am is-strwythur TG y Comisiwn cyfan, gan alluogi ein holl staff i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol fodern.
Gwasanaethau Data, Coflein, Cymru Hanesyddol, TG, Safonau Data, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol; Casgliad y Werin Cymru