Mae i’r Comisiwn Brenhinol dair cangen, ac mae gan bob cangen gyfrifoldeb dros agwedd wahanol ar ein gwaith.
Y Gangen Arolygu Mae’r gangen hon yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys ymchwilio dogfennol, arolygu o’r awyr, arolygu ar lawr gwlad ac arolygu digidol a ffotograffiaeth i ymchwilio i’r amgylchedd adeiledig, a’i gofnodi a’i ddehongli. Mae’r adran Cofnodi Brys ar Adeiladau yn ymateb i ymgynghoriadau ynghylch cynigion cynllunio ac Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig.
Y Gangen Rheoli Gwybodaeth Mae’r gangen hon yn sicrhau cadw a datblygu’r gronfa ddata o safleoedd hanesyddol a henebion Cymru, Coflein, er mwyn darparu cofnod awdurdodol a hwylus o safleoedd a henebion. Mae’r Gangen Rheoli Gwybodaeth hefyd yn cymryd y cyfrifoldeb dros ddatblygu a gofalu am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC).
Y Gangen Cyhoeddiadau ac Estyn-Allan Mae’r gangen hon yn lledaenu gwybodaeth drwy wneud hyn:
Mae’r Tîm Gweinyddu yn ymdrin â chynllunio gweithrediadol, cyllid, cyfleusterau ac adnoddau dynol.