Hawlfraint a hawliau atgynhyrchu
Diogelir yr holl ddeunydd ar y wefan hon gan hawlfraint ac ni cheir ei gopïo na’i gyhoeddi at ddibenion masnachol heb gael caniatâd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ymlaen llaw.
Os hoffech chi ofyn am ganiatâd i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd ar y wefan hon neu unrhyw wybodaeth neu ddelwedd arall o’n harchif, ewch i Gwneud cais am drwydded hawlfraint a llenwch y Ffurflen Caniatâd i Atgynhyrchu. O dan rai amgylchiadau, gellir codi ffi ac mae rhestr o’r ffioedd am atgynhyrchu delweddau i’w gweld yn Ffioedd Atgynhyrchu Delweddau .
Daw peth o’r deunydd ar y wefan o dan hawlfraint a ddelir gan eraill, a gall fod angen i’r Comisiwn Brenhinol anfon ceisiadau i’w atgynhyrchu ymlaen at ddeiliad penodol yr hawlfraint i gael ei ganiatâd hwythau. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â’r Llyfrgell a Gwasanaethau Ymholiadau
Yn adran Delweddau'n Syth y wefan hon ceir deunydd sydd â Hawlfraint y Goron arno ac sydd wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer ei atgynhyrchu gan gyrff anfasnachol a’r wasg/cyfryngau. Rhaid atgynhyrchu’r deunydd yn fanwl-gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Ni ddylid ond ei ddefnyddio gyda chydnabyddiaeth lawn fel y nodir isod.
Ni cheir atgynhyrchu’r cyfan na rhan o logo’r Comisiwn Brenhinol heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Gall y Comisiwn Brenhinol dynnu’n ôl unrhyw ganiatâd i lwytho delweddau neu ddeunydd i lawr o’r wefan hon, neu ei atgynhyrchu, os defnyddir y deunydd mewn ffordd sydd, yn ein barn ni, yn niweidiol, neu a allai fod yn niweidiol, i enw da Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Diogelir dyluniad, graffigwaith a threfniant pob un o’r lluniau a’r testun yn y wefan gan hawlfraint sy’n eiddo i CBHC, darparwyr ei chynnwys neu ei darparwyr technegol.
Y datganiad llawn o hawlfraint ar gyfer deunydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw:
Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.