Gan mai nod Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw sicrhau bod ei wefan yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, ceisiwyd cydymffurfio â Chanllawiau W3C i Hygyrchedd Cynnwys y We ac wrth gomisiynu a chynhyrchu’r wefan fe gymerwyd y Fanyleb sydd ar gael yn gyhoeddus, sef PAS78:2006, i ystyriaeth.
Delweddau
Darperir testun ar gyfer pob delwedd a ddefnyddir ar y wefan. Mae’r delweddau sy’n dod o’n harchif ni’n rhoi gwybodaeth gyfeirio benodol am bwnc y ddelwedd, gan gynnwys:
1. Enw’r safle hanesyddol.
2. Disgrifiad byr o’r ddelwedd.
3. Blwyddyn tynnu’r ffotograff.
4. Cyfeirnod y ddelwedd ddigidol.
5. Rhif Cofnod Sylfaenol Cenedlaethol (NPRN) y safle.
Mae modd defnyddio’r wybodaeth honno i wneud ymholiad yngl?n â’r safle hanesyddol ar gronfa ddata ar-lein Coflein neu i anfon ymholiad i Wasanaeth Ymholiadau Cyhoeddus y Cofnod Henebion Cenedlaethol.
Bysellau Cyrchu
Tan y ceir safonau a dderbynnir gan bawb ynghylch defnyddio bysellau cyrchu, ac y gweithredir y bysellau hynny’n gyson ar draws porwyr ac asiantau defnyddwyr modern, ni chaiff bysellau cyrchu eu defnyddio ar y wefan hon.
Nodweddion sy'n cynyddu hygyrchedd:
Marciau semantaidd i gyfleu strwythur y tudalennau unigol.
Bwriedir i bob cyswllt fod yn ystsrlon o'i ddarllen ar ei ben ei hun.
Darperir map o'r wefan.
Mae modd newid maint y testun drwy ddefnyddio offer rheoli perthnasol y porwr.
Mae taflen arddull testun-yn-unig wedi'i darparu.
Nid ydym wedi defnyddio:
Delweddau’n unig i gyfleu gwybodaeth
Lliw’n unig i gyfleu gwybodaeth
Fframiau na thablau ar gyfer cyflwyno.
Tudalennau ymyrrol.
Dogfennau y gellir eu llwytho i lawr
Gan ein bod ni’n sylweddoli bod cyfyngiadau ar hygyrchedd wrth ddefnyddio dogfennau y mae modd eu llwytho i lawr, yr ydym wedi tagio’r testun a’r delweddau ac wedi marcio’r testun yn briodol er mwyn ceisio’u gwneud mor hygyrch â phosibl i feddalwedd darllen sgrin.
Cydweddiad PorwyrWrth ddatblygu’r wefan, gofalwyd bod modd ei chyrchu drwy borwyr gwe modern, gan gynnwys:
Microsoft Internet Explorer fersiwn 7.0 a fersiynau diweddarach
Mozilla Firefox 1.5 a fersiynau diweddarach
Opera 9.0 a fersiynau diweddarach
Safari 2.0 a fersiynau diweddarach
Ar ben hynny, fe geisiwyd, lle bynnag yr oedd modd, gynorthwyo’r porwyr h?n canlynol, er nad oes modd rhoi cymorth llawn iddynt:
Microsoft Internet Explorer 6.0
Safari 1.3
Gallwch chi ddod o hyd i’r diweddariadau diweddaraf i’ch porwr rhyngrwyd drwy ymweld â hafan cyflenwr eich porwr a dilyn y cysylltau i lwytho’r uwchraddiadau hynny i lawr.