gyfer Defnyddio Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru
1. Defnyddio
Gwybodaeth o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC)
CHCC yw archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC).
Mae cael y
Cytundeb hwn a defnyddio deunydd CHCC yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn
a chytuno i gydymffurfio â hwy.
Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir o CHCC ei chyflenwi gan Gomisiwn Brenhinol
Henebion Cymru yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb hwn i’r unigolyn, y
sefydliad neu’r cwmni (“Chi”), at ddibenion mewnol neu ymchwil breifat, fel y
pennwyd gennych Chi yn eich ymholiad gwreiddiol. Fe’i cyflenwir yn unol â
safonau gwasanaethu a thelerau talu CHCC (mae’r taflenni gwybodaeth a’r rhestri
prisiau ar gael drwy wneud cais amdanynt, neu ewch i’n gwefan www.cbhc.gov.uk ).
Ni chewch
gopïo, cyhoeddi na threfnu fel arall i wybodaeth a gyflenwyd o CHCC o dan y
Cytundeb hwn fod ar gael heb ganiatâd ysgrifenedig CHCC, p’un a yw’r wybodaeth
a gyflenwyd yn ddeunydd hawlfraint neu beidio.
Ni cheir
newid na manipwleiddio deunydd heb gael cydsyniad ysgrifenedig CHCC ymlaen
llaw.
Ni chaiff
deunydd, drwy fasnach neu fel arall, gael ei roi ar fenthyg, ei werthu, ei
ailwerthu, ei logi allan na’i gylchredeg fel arall i drydydd parti heb gael
caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.
Rhaid i’r
wybodaeth beidio â chael ei defnyddio at ddibenion a all arwain at ddifrodi
safleoedd archaeolegol, adeiladau hanesyddol a thirweddau.
2. Atgynhyrchu
a Thaliadau
CBHC, y Goron neu drwyddedwyr eraill yw perchnogion pob hawl, gan gynnwys hawlfraint
a hawliau cronfa-ddata yn y wybodaeth. Os dymunwch Chi ei hatgynhyrchu neu
atgynhyrchu unrhyw ran ohoni, neu ei chyhoeddi neu gyhoeddi unrhyw ran ohoni
neu drefnu fel arall iddi neu unrhyw ran ohoni fod ar gael neu ei hecsbloetio’n
fasnachol neu ecsbloetio unrhyw ran ohoni’n fasnachol, rhaid i Chi wneud cais
am ganiatâd i Lyfrgell a Gwasanaeth Ymholiadau CHCC yn y cyfeiriad isod cyn i
Chi ei hatgynhyrchu neu ei chyhoeddi o gwbl. Gall fod ffioedd atgynhyrchu i’w
talu beth bynnag fo statws hawlfraint y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Os yw’n
gymwys, gallwn eich cyfeirio Chi at ddeiliad yr hawlfraint berthnasol os nad
ydym wedi’n hawdurdodi i roi gwybodaeth ar ran deiliad yr hawlfraint.
3. Aseinio
Nid oes modd aseinio, trosglwyddo nac is-drwyddedu’ch hawliau o dan y Cytundeb
hwn heb i chi gael caniatâd ysgrifenedig CHCC ymlaen llaw.
4. Torri
Cymerir bod methiant gennych Chi i gydymffurfio â thelerau’r Cytundeb hwn yn gyfystyr
â’u torri, a bydd yn arwain at derfynu’r Cytundeb ar unwaith. Os yw’n briodol,
gall CHCC fynnu iawndal gennych Chi a/neu fynnu’ch bod yn dychwelyd unrhyw
Wybodaeth sydd wedi’i chyflenwi o dan y Cytundeb hwn.
5. Ymwadiad
Nid yw CBHC yn rhoi unrhyw warant mewn cysylltiad â’r wybodaeth a roir i Chi yn
unol â’r Cytundeb hwn, gan gynnwys mewn perthynas â’i chyflawnrwydd a/neu ei
manwl-gywirdeb. Ni ellir dal CBHC yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad a wneir
gan ddibynnu ar y wybodaeth.
6. Awdurdodaeth
Daw’r Cytundeb hwn o dan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i
awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.