Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi Cynllun Strategol a Gweithredol bob blwyddyn. Caiff y Cynllun Strategol, sy’n cyflwyno’r rhaglen y mae’n bwriadu ei gweithredu dros y tair blynedd dilynol, ei ddiwygio’n flynyddol, ac mae’r Cynllun Gweithredol blynyddol yn disgrifio swyddogaethau creiddiol y Comisiwn a’r ffyrdd y bydd y Comisiwn, drwyddynt, yn cyflawni ei nodau a’i amcanion yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Caiff prosiectau partneriaeth y Comisiwn Brenhinol eu rhestru yn y cynllun, yn ogystal â’i ddangosyddion perfformiad.
Mae’r Cynllun Strategol a Gweithredol cyfredol ar gael mewn print a gallwch ofyn am gopi ohono drwy gysylltu â ni yn ein cyfeiriad cyffredinol. Neu fe allwch chi lwytho copi i lawr ar ffurf PDF o’r tudalen hwn.