Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored yn ei fusnes ac mae’n addo cydymffurfio â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Chod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth.
Mae gan y Comisiwn Brenhinol Bolisi ar Ryddid Gwybodaeth, a gallwch ei lwytho i lawr ar ffurf dogfen PDF o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohono, bydd croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gopi.
Y Cynllun Cyhoeddi
Mae Cynllun Cyhoeddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol) wedi’i lunio o dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Diben y Cynllun Cyhoeddi yw nodi:
Pa wybodaeth yr ydym yn addo’i chyhoeddi fel rhan o’r drefn.
Sut y caiff y wybodaeth honno’i chyhoeddi.
A yw’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim neu am dâl.
Mae gan y Comisiwn Brenhinol Gynllun Cyhoeddi, a gallwch ei lwytho i lawr ar ffurf dogfen PDF o’r tudalen hwn. Os hoffech gael fersiwn printiedig ohono, bydd croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gopi.