Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw yn ei weithrediadau ac mae amrywiaeth o’i ddogfennau a’i bolisïau corfforaethol ar gael i’r cyhoedd.
Isod, rhestrir y dogfennau a’r polisïau swyddogol sydd ar gael drwy’r wefan, a gellir llwytho llawer ohonynt i lawr fel ffeiliau Adobe .PDF neu ddogfennau Microsoft Word.
Os bydd angen copïau printiedig o’r dogfennau hyn arnoch chi, gallwch eu cael yn rhad ac am ddim drwy gysylltu â’r gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus.
Polisi Casglu – mae’n nodi’r mathau o gofnod yr ydym yn addo’u diogelu yn archif Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth - mae’n rhestru’r cofnodion yr ydym yn addo eu cyhoeddi fel rhan o’n trefn arferol.
Y Polisi ar Ryddid Gwybodaeth – mae’n nodi sut y bwriadwn ni gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Y Polisi ar Diogelu Data – mae’n nodi sut y bwriadwn ni gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data.
Y Polisi ar Reoli Cofnodion – mae’n nodi sut yr ydym yn addo cadw cofnod cywir o’n busnes.
Cofnodion o Gyfarfodydd y Comisiynwyr