Amdanom Ni

Soar-y-mynydd, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanddewibrefi. 2004. (Image: DI2006_0814 / NPRN: 7229) Llanfair, Llanfair-green. Brasluniau o Gapel Llanfair Kilgoed a gweddillion hen Gapel y Faenor o lyfrau nodiadau R.E.Kay, Cyfrol III Cyfres 1, Tudalen 437. Dyddiad y nodiadau yw 1947. (Image: CD2005_606_014 / NPRN: 12989 / Source: R.E. Kay)

Ar 3 Mai 2012, cyflwynodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn Llywodraeth Cymru, Ddatganiad Ysgrifenedig i Aelodau Cynulliad Cymru yn cyhoeddi sefydlu ‘gweithgor i greu proses y gellid ei defnyddio i uno swyddogaethau craidd y Comisiwn Brenhinol â sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw’.

Ar 17 Ionawr 2013, gorchmynnodd y Gweinidog baratoi achos busnes ar gyfer uno gwasanaethau’r Comisiwn Brenhinol â rhai Cadw, y tu mewn i Lywodraeth Cymru. Y cymharydd fyddai Comisiwn wedi’i adnewyddu fel elusen gofrestredig.

Mae’r Comisiynwyr yn llwyr gefnogi penderfyniad y Gweinidog i wyntyllu dewisiadau, gyda’r nod o sicrhau gwydnwch cyrff yr amgylchedd hanesyddol yn y dyfodol wrth i arian y llywodraeth leihau. Maent hwy’n falch o gyfraniad y Comisiwn Brenhinol i fywyd Cymru yn ystod y 105 o flynyddoedd diwethaf a gobeithiant y bydd archwiliad cadarn a thryloyw yn esgor ar y model gorau ar gyfer ei wasanaethau yn y dyfodol. Cafodd eu barn hwy ar y posibiliadau ar gyfer uno eu cyflwyno cyn cyhoeddiad cyntaf y Gweinidog yn eu Dadansoddiad o Fodelau Gweithredu.

Mae defnyddwyr y gwasanaeth, Cyfeillion, staff, cyrff allanol ac unigolion wedi mynegi pryderon mawr ynghylch dyfodol gwasanaethau’r Comisiwn. Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i ymchwilio i’r polisi ar yr amgylchedd hanesyddol, gan gynnwys y cynnig i uno.

Eurwyn Wiliam, Cadeirydd

Dogfennau