Mae’r tudalennau hanes uwchradd yn cynnwys enghreifftiau o’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi hanes yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Ceir yma wybodaeth am safleoedd ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru.
I ddod o hyd i ddelweddau, gan gynnwys awyrluniau diweddar, neu wybodaeth am safleoedd hanesyddol neu adeiladau yn eich ardal leol, gall Coflein fod yn ffynhonnell dda o wybodaeth. Mae Coflein yn addas ar gyfer disgyblion i ymchwilio am wybodaeth am safleoedd hanesyddol yng Nghymru.
I gael gwybodaeth am ragor o ddeunyddiau neu enghreifftiau lleol cysylltwch â Gwasanaethau Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu ein Swyddog Addysg.
Datblygir adnoddau addysgol pellach cyn bo hir.
Ydych chi wrthi’n ymgymryd â phrosiect sy’n ymwneud â threftadaeth Cymru? Beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth flynyddol Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig? Am fanylion pellach edrychwch ar ei gwefan drwy ddefnyddio’r cyswllt isod.