Adnoddau Dysgu

Sut y newidiodd bywydau trigolion Blaenafon yn ystod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Mae'r adnoddau rhyngweithiol isod yn rhoi cyfle i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 ddatblygu sgiliau meddwl trwy ymholi hanesyddol – sef ymchwilio i newidiadau ym mywydau pobl ym Mlaenafon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bwriad y gweithgareddau yw cyfrannu at ddatblygiad sgiliau hanesyddol a sgiliau allweddol. Fel rhan o'r ymchwiliad ardal, mae cyfle i ddisgyblion astudio pynciau amrywiol drwy ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cynlluniau, ffotograffau, awyrluniau, adluniadau, animeiddiad, ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau ac adroddiadau’r Comisiwn Brenhinol.

Mae'r adnodd cyntaf, lleoliad, yn defnyddio mapiau a chynlluniau i ddysgu am Flaenafon, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, ac mae’n ymchwilio i sut mae'r dref wedi newid ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cyswllt i'r adnodd lleoliad.

Yn yr adnodd byd gwaith, defnyddir amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i wybodaeth am deulu oedd yn byw ac yn gweithio yng ngwaith haearn Blaenafon.

Cyswllt i'r adnodd byd gwaith.

Mae'r adnodd olaf, sef tai a chartrefi, yn astudio amodau byw’r gweithwyr haearn ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu sgiliau meddwl, gan gynnwys sgiliau rhif.

Cyswllt i'r adnodd tai a chartrefi.

Mae'r gweithgareddau yn datblygu dealltwriaeth o sut y caiff y gorffennol ei ddehongli gan haneswyr ac mae’n annog disgyblion i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd.