Adnoddau Dysgu

Awyrluniau

Gan fod awyrluniau’n rhoi gorolwg unigryw a hynod ddifyr i chi o’ch ardal leol, maent yn adnodd addysgol amhrisiadwy, yn enwedig o’u defnyddio gyda’r map cyfatebol. Bydd disgyblion o bob oed yn mwynhau ymchwilio i dirweddau cyfarwydd drwy astudio lluniau ohonynt o’r awyr. Fel rheol, bydd ffotograffau’n haws eu deall na map haniaethol ac yn rhoi argraff lawer cliriach o le.

Mae dau fath o awyrlun: arosgo a fertigol.

Caiff awyrluniau arosgo eu tynnu gan ffotograffydd drwy ffenestr awyren, a hynny ar onglau o lai na 90 gradd i’r ddaear. Mae’r persbectif arosgo yn rhoi golwg mwy ‘realistig’ o’r tir islaw, ac mae’n well ffordd o ganfod llawer o fanylion gwrthgloddiau ac adeiladau nag a gewch wrth gerdded ar y tir.

Tynnir awyrluniau fertigol o bwynt yn union uwchben y tir gan ddefnyddio camera sydd wedi’i osod ar waelod awyren ac sy’n pwyntio’n uniongyrchol tuag i lawr ar 90 gradd i’r ddaear. Gan fod awyrluniau fertigol yn debyg i fapiau, byddant yn cynnig llawer cyfle i ddatblygu sgiliau mapio.

Defnyddio awyrluniau yn yr ystafell ddosbarth

Mae modd defnyddio’r lluniau hyn i helpu i ddatblygu amryw o sgiliau allweddol ac i hybu amcanion cynnwys y cwricwlwm. Fel rheol, bydd hi’n well i blant astudio awyrlun arosgo cyn symud ymlaen i astudio awyrlun fertigol. Mae’n llawer haws deall y persbectif arosgo a gellir adnabod pentrefi, adeiladau a nodweddion y dirwedd a’u hastudio o bwynt oddi fry. Mae modd gweld tu blaen adeiladau hefyd.

Mae hi bob amser yn werthfawr rhoi amser i’r plant sôn am yr hyn a welant. Drwy ddefnyddio ffotograffau lleol, bydd cymhelliant y plant yn uwch fel rheol a chânt hwyl ar ddod o hyd i nodweddion cyfarwydd. Man cychwyn da fyddai dod o hyd i’r lleoliadau allweddol:

* yr ysgol,

* capel neu eglwys,

* cyffordd o bwys,

* yr archfarchnad leol,

* afon neu bont.

Yn achos plant iau neu blant ag anghenion addysgol arbennig, gellid labelu’r nodweddion hynny.

Gellir annog plant i chwilio am ragor o dystiolaeth:

* pa dymor o’r flwyddyn yw hi

* pa mor fawr yw llif y traffig

* uchder yr adeiladau

* a gafodd yr awyrlun ei dynnu amser maith yn ôl.

Daearyddiaeth

Mae awyrluniau unigol yn ddefnyddiol wrth ateb cwestiynau fel: sut le yw hwn? Gellir hefyd ddefnyddio awyrluniau i annog plant i rannu eu barn am le, fel: a yw’r lle hwnnw, yn eu barn hwy, yn hardd, yn hyll neu’n ‘wyrdd’?

Gall hynny eu harwain i drafod cwestiynau fel: sut brofiad yw byw mewn lle fel hwn?

Gall disgyblion ddefnyddio awyrlun unigol i adnabod mathau allweddol o ddefnydd tir a defnyddio gwahanol liwiau i ddangos pob math unigol o ddefnydd tir:

* cludiant (ffordd, rheilffordd)

* diwydiannol, preswyl

* hamdden, amaethyddiaeth.

Gellir gwneud hynny drwy osod asetad dros yr awyrlun neu wneud llungopïau ohono a gofyn i’r plant eu lliwio. O sganio awyrluniau, gellir eu lliwio ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol fel bod modd i’r plant amcangyfrif y canrannau o ddefnydd tir diwydiannol, preswyl neu amaethyddol. Gallent ddangos eu darganfyddion ar siart neu graff.

* Oes modd adnabod unrhyw batrymau daearyddol?

* Oes unrhyw batrymau i’r defnydd tir?

* Ydy’r holl dir preswyl gyda’i gilydd?

Mae modd defnyddio awyrluniau hefyd i astudio datblygiad ardal:

* drwy astudio lleoliad safleoedd hanesyddol

* ceiau

* adeiladau

* pontydd.

Wrth astudio’r thema ‘newidiadau yn yr amgylchedd’ ac, yn arbennig, sut mae pobl yn effeithio ar yr amgylchedd, gall awyrluniau fod yn ddefnyddiol wrth ddangos lleoliad ac effaith chwarel neu ffordd newydd.

Gweithio gyda mapiau

Gan i awyrluniau gael eu tynnu, yn aml, at ddibenion mapio, mae hyn yn ffordd dda o esbonio wrth blant beth yw mapiau a sut y cânt eu tynnu. Gall disgyblion weithio gydag awyrlun unigol i wneud map o’r ardal. Dylent ddefnyddio gwahanol liwiau neu symbolau i farcio’r nodweddion allweddol arno:

* ffyrdd

* rheilffyrdd

* afonydd a chamlesi

* adeiladau allweddol, fel eglwysi

O wneud y gwaith hwnnw drwy osod taflen asetad dros yr awyrlun, gellid ei lungopïo i gynhyrchu map. Yna, mae modd cymharu hwnnw â map yr Arolwg Ordnans (AO) o’r ardal. Pa nodweddion eraill sydd wedi’u marcio ar fap yr AO? Pa symbolau sydd wedi’u defnyddio ar y map? Beth sydd heb eu cynnwys ar fap yr AO? (tracffyrdd drwy gaeau, clystyrau o goed, adeiladau diweddar).

Drwy ddefnyddio awyrluniau fertigol, gall plant ddatblygu sgiliau o ran cyfeiriadau, graddfeydd, allweddau a dysgu defnyddio symbolau yng nghyd-destun ymchwilio. Gallai’r plant ddefnyddio’r awyrlun i roi cyfarwyddiadau ynghylch sut mae mynd o’r ysgol i le arall. Bydd awyrluniau’n dangos tystiolaeth o bethau na chânt eu dangos ar fapiau, fel y tymhorau, yr adeg o’r dydd a’r agweddau ar fywyd bob-dydd sy’n rhoi cliwiau ynghylch defnyddio adeiladau a’r darnau tir sydd wedi’u hanheddu.

Hanes

Mae awyrluniau’n ffynhonnell ragorol ar gyfer darganfod sut mae lle wedi newid. Drwy ddefnyddio dau neu dri awyrlun o’r ardal, a’r rheiny wedi’u tynnu ar wahanol adegau, gall plant sylwi ar newidiadau yn y defnydd tir. Gall plant astudio sut olwg oedd ar eu hardal leol yn y 1940au/1950au neu sut y mae hi wedi newid yn y gorffennol mwy diweddar. Gellir nodi mathau penodol o ddefnydd tir drwy liwio llungopi neu daflen asetad. O ddefnyddio asetad, neu fwrdd gwyn rhyngweithiol, bydd modd troshaenu taflenni a thynnu sylw at y gwahaniaethau mewn defnydd tir. Bydd pa ddarnau tir y dewisir tynnu sylw atynt yn dibynnu ar y topig neu’r maes astudio: er enghraifft, os gwnaed newidiadau i’r rhwydwaith ffyrdd, fe all mai cludiant yw’r unig ddefnydd tir y tynnir sylw ato. Mae modd defnyddio’r dull hwn hefyd i weld ble mae tai newydd wedi’u codi, ble mae tirlenwi wedi digwydd neu ble mae adeiladau wedi mynd yn adfeilion.

Gall awyrluniau hefyd fod yn ddefnyddiol iawn wrth astudio safle hanesyddol. Maent yn fodd i blant astudio’r tirweddau a manylion adeiladau a chofadeiliau yn y wlad a’r dref. Gallant helpu plant i osod safle hanesyddol yn ei gyd-destun a dechrau deall ei siâp a’i ffurf. Fe ellid, er enghraifft, astudio patrymau hanesyddol y datblygu a fu ar dref ganoloesol drwy sylwi bod llinellau hen furiau’r dref weithiau i’w gweld ym mhatrymau’r strydoedd sydd yno heddiw.

Sgiliau Meddwl / Sgiliau Cyfathrebu

Mae modd defnyddio awyrluniau fel adnoddau ar gyfer agweddau ar addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) neu ddadleuon ynghylch gwahanol faterion amgylcheddol neu dreftadaeth. Gellid gosod problem gynllunio i’r disgyblion a gallent ddefnyddio’r awyrluniau i ddangos eu hatebion: er enghraifft, ble mae gosod parc ceir, archfarchnad neu fferm wynt newydd.

Gallai’r gwaith iaith gynnwys disgrifio ardal o’r awyr neu wneud gwaith creadigol ar sail taith uwchlaw’r ysgol mewn bal?n neu ar garped hud.

I ddod o hyd i luniau lleol, gan gynnwys awyrluniau, defnyddiwch Coflein. Mae dwy ffordd o ddefnyddio Coflein, sef defnyddio mapiau Coflein neu chwiliad testun Coflein. I chwilio am luniau, defnyddiwch chwiliad testun Coflein a dewiswch IE i chwilio am safleoedd sydd â lluniau ar-lein ohonynt.

I archebu lluniau o'ch ardal leol, cysylltwch â'r Cofnod Henebion Cenedlaethol.

Ffynonellau o wybodaeth bellach

Cyhoeddiadau English Heritage:

Aerial Photography Book \ CD-ROM

ISBN 1-85074-780-6

Cod y Cynnyrch 30026

£8.99

Teacher’s Handbook for Local Studies

ISBN 1-873592-37-X

Cod y Cynnyrch 30096

£6.99

Manylion cysylltu:

English Heritage Education

Rhadbost/Freepost 22 (WD214)

Llundain /London WIE 7EZ

0870 333 1181

www.english-heritage.org.uk/education