Adnoddau Dysgu

Defnyddio ein Hadnoddau

Mae gan yr Adran Adnoddau Dysgu ddeunydd sy’n cefnogi ac yn cyfoethogi'r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Cymreig / Cymru yn ogystal â syniadau ar sut y gellid eu defnyddio yn y dosbarth.

Mae casgliad enfawr Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yn cynnwys dros 1.25 miliwn o ffotograffau a miloedd lawer o gynlluniau, mapiau, adroddiadau a lluniadau sy'n cofnodi amgylchedd hanesyddol Cymru. Ynddo, ceir adnoddau gwerthfawr i athrawon a dysgwyr o bob oed gan roi sylw i amrywiaeth mawr o bynciau'r cwricwlwm a gofynion y Cwricwlwm Cymreig.

Gellir cyrchu’r archif drwy Coflein neu drwy gysylltu â’n gwasanaeth ymholiadau.

Coflein yw cronfa ddata ar-lein gyhoeddus y Comisiwn Brenhinol. Mae’n cyfuno gwybodaeth am safleoedd ac adeiladau archaeolegol o bob cyfnod â gwybodaeth o gatalogau’r casgliadau yn archif CHCC. Gellir gweld a lawrlwytho lluniau a gwybodaeth yn uniongyrchiol o Coflein. Mae Coflein yn addas ar gyfer disgyblion i chwilio am wybodaeth am safleoedd hanesyddol yng Nghymru ac i ddatblygu sgiliau TGCh, e.e. defnyddio GIS, dehongli mapiau a delweddau.

Mae’r Comisiwn Brenhinol wrthi’n tynnu awyrluniau archaeolegol yng Nghymru er 1986 ac maent yn rhan o gasgliad unigryw o awyrluniau’r CHCC. Mae’r casgliad helaeth yn cynnwys awyrluniau lletraws a dynnwyd rhwng tua 1950-70 ac awyrluniau fertigol o’r rhan fwyaf o Gymru a dynnwyd o tua 1945 ymlaen. Maent yn ffynhonnell werthfawr iawn i’r dosbarth.

Daw delweddau ac awyrluniau’r Comisiwn o bob cwr o Gymru, ac meant yn ffynhonnell wych i ymchwilio i destunau hanesyddol a daearyddol. Gellir eu defnyddio i adnabod ac archwilio amrywiaeth y tirluniau naturiol a dynol yng Nghymru, i astudio mathau gwahanol o adeiladau yn ogystal ag i gymharu a chyferbynnu llefydd a nodi sut y maent wedi newid dros amser. Ceir syniadau ar sut y gellir defnyddio awyrluniau yn y dosbarth yma.

Am gymorth pellach neu i drefnu HMS / ymweliad â’r Comisiwn cysylltwch â’n Swyddog Addysg.