Adnoddau Dysgu

Fferm Wynt Llidiart-y-waen, Llandinam. 2001. (Image: DI2006_0497 / NPRN: 306320) Porth Amlwch, Ynys Mon. 1994. (Image: DI2006_0256 / NPRN: 41244)

Daearyddiaeth Cynradd

Mae’r tudalennau daearyddiaeth cynradd yn cynnwys enghreifftiau o’r amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i gefnogi daearyddiaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a gofynion y Cwricwlwm Cymreig. Ceir yma adnoddau am safleoedd yng Nghymru.

I ddod o hyd i ddelweddau, gan gynnwys awyrluniau diweddar yn eich ardal leol, gall Coflein fod yn ffynhonnell dda.

I gael gwybodaeth am ragor o ddeunyddiau neu enghreifftiau lleol cysylltwch â Gwasanaethau Ymholiadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu ein Swyddog Addysg.

Datblygir adnoddau addysgol pellach cyn bo hir.

Cysylltau allanol